Y grŵp Cymraeg o Sheffield, Sister Wives, fydd y diweddaraf i berfformio sesiwn fel rhan o gyfres ‘Ar Dâp’ gan Lŵp, S4C.
Mae’r gyfres eisoes wedi darlledu sesiynau diweddar gan 9Bach, Yr Ods a 3 Hŵr Doeth ar-lein.
Mae sesiwn Sister Wives wedi’i ffilmio yn Neuadd Ogwen, Bethesda ac am y tro cyntaf yn y gyfres mae cynulleidfa fyw yn gwilio’r set.
Bydd modd gwylio’r sesiwn am 17:00 ar ddydd Mercher 29 Medi ac mae modd cofresru i’r premiere ar YouTube nawr.