Sister Wives – y grŵp Cymraeg o Sheffield

Mae ‘na enw grŵp newydd a hynod o ddiddorol wedi ymddangos ar dirwedd cerddoriaeth Gymraeg dros yr wythnosau nesaf.

Nid yn unig bod cerddoriaeth Sister Wives yn hynod drawiadol i’r glust, mae ganddyn nhw hefyd ddelwedd ac agwedd arbennig o drawiadol sy’n mynnu eich sylw o’r eiliad gyntaf.

A’r hyn sy’n cynyddu’r chwilfrydedd hyd yn oed yn fwy ydy’r ffaith mai grŵp o Sheffield ydyn nhw, sy’n canu yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Felly roedd rhaid i’r Selar fynd ati i ddysgu mwy am y grŵp sydd newydd ddechrau gweithio gyda Recordiau Libertino, ac roedden ni’n ffodus iawn i allu sgwrsio gydag un o’r aelodau, Donna.

“Cyfarfu Liv [gitarydd] a minnau [synth a llais] ychydig flynyddoedd yn ôl yn Sheffield yn fuan ar ôl iddi symud i fyny o Lundain a sylweddoli bod gennym lawer o ffrindiau yn gyffredin” eglura Donna.

“Roedd y ddwy ohonom eisiau gwneud prosiect cerddorol newydd a daeth hyn ac ychydig o genres cerddorol roedd y ddwy ohonom yn caru a ni at ei gilydd.”

Ond un peth oedd yn bwysig i Donna o’r dechrau oedd gallu canu yn y Gymraeg, a thrwy hap, roedd Liv yn dderbyniol iawn i’r syniad hwnnw.

“Gwnes yn glir iawn fy mod eisiau canu yn y Gymraeg. Ac wrth wneud, fe wnes i ddod i ddeall bod gan Liv nain a thaid o Gymru a’i bod hi yn gefnogol i’r canu Cymraeg!

“Dechreuon ni jamio am ychydig fisoedd i ddatblygu ein sain. Roeddem yn gwybod ein bod am i bobl eraill ymuno â’r grŵp, ond roeddem angen dethol yn ofalus iawn oherwydd ein bod am gael sain penodol, ond hefyd roeddem am i’r aelodau fod yn fenywod.

“Roedd angen drymiwr a chwaraewr bas arnom. Roedd Rose newydd symud o Leeds ac mae hi’n gerddor talentog, mae’n chwarae banjo a bas ac yn canu’n dda. Deuthum i’w hadnabod a’i chyflwyno i Liv. Mae ganddi hefyd ddylanwadau gwahanol iawn y mae’n dod â nhw i’r band yr oeddem ni’n meddwl a weithiodd yn dda.

“Nid oedd Lisa’n gwybod sut i chwarae drymiau pan ymunodd â’r band, ond dysgodd mor gyflym trwy ddysgu ei hun a dod lawr i’r lle ymarfer i ddysgu curiadau newydd. Roedd Liv a minnau eisiau i Lisa ymuno achos mae hi’n gerddor da sydd fel arfer yn chwarae gitâr, ond mae hi’r math o berson sy’n codi pethau’n gyflym ac roedden ni’n gwybod y byddai’n berffaith i fod yn y band.”

Dylanwad Y Diliau

Mae’n amlwg bod yr aelodau’n bobl sy’n gwybod yn union beth maen nhw eisiau o ran sŵn, ac yn ôl Donna mae ganddyn nhw ddylanwadau eclectig iawn.

Mae Donna a Liv yn dod o gefndir cerddoriaeth pync ac ôl-bync, gyda’r ddwy wedi chwarae mewn bandiau o’r genre’s hynny yn y gorffennol. Mae hynny’n glir o wrando ar y mics newydd o’r trac ‘Rwy’n Crwydro’ sydd wedi’i ryddhau’n ddiweddar gan Libertino.

Yn fwy o syndod efallai ydy bod Donna hefyd yn tynnu ar lawer o ddylanwadau gwerin Cymraeg a cherddoriaeth grwpiau merched o Gymru o’r 1960au a’r 1970au…

“…yn enwedig Y Diliau oherwydd yr harmonïau anhygoel, rwy’n credu mai dyma o ble y daw’r prif ddylanwad ar ein lleisiau” meddai Donna.

“Fodd bynnag, mae’r dylanwad hefyd yn gorwedd yn nhir a diwylliant hynafol Cymru.

“Daw Rose o ddylanwad mwy seicedelig a miwsig y 1970au ac mae Lisa yn hoffi amrywiaeth mor eang o gerddoriaeth fel ei bod hi’n hawdd i ni fod ychydig yn ddiffygiol o genre.”

Daw Donna’n wreiddiol o bentref Moelfre ar Ynys Môn, ond symudodd i’r Brifysgol ym Manceinion yn 2002 cyn symud i Sheffield i hyfforddi fel athro yn 2006. Yn ôl y gantoresm mae’n bwriadu symud yn ôl i Gymru yn y man er mwyn i’w merch siarad Cymraeg yn rhugl.

Ffurfiodd y grŵp yn 2018 a cyn i’r pandemig daro, roedden nhw wedi llwyddo i gigio tipyn yn Sheffield a thu hwnt mewn dinasoedd fel Leeds a Manceinion.

“Rydyn hefyd wedi chwarae mewn trefi llai fel Hebden Bridge mewn venue annibynnol o’r enw The Trades Club” meddai Donna.

“Rydyn ni wedi cefnogi bandiau fel The International Teachers of Pop, Porridge Radio a Eccentronic Research Council.”

Er gwaetha’r ffaith nad ydyn nhw wedi cael cyfle i chwarae yng Nghymru eto, mae eu caneuon Cymraeg wedi cael croeso cynnes dyn y gigs ros Glawdd Offa.

“Mae yna sin miwsig dda iawn yn Sheffield a rhai venues annibynnol gwych.

“Mae ’na griw of bobl sy’n siarad Cymraeg yn Sheffield sy’n hoffi dod i’n gweld ac yn canu geiriau’r caneuon.

“Rwy’n credu bod pobl yn Lloegr yn hoffi’r ffaith ein bod ni’n canu yn y Gymraeg, nid yw’n rhywbeth maen nhw’n ei ddisgwyl. Mae gen i acen Sheffield cryf iawn er y ffaith mai Cymraeg yw fy iaith gyntaf, felly mae pobl yn aml yn synnu. Mae pobl yn mwynhau clywed y Gymraeg ac yn aml yn gofyn am y geiriau ar ôl y gig.”

Grŵp gweithgar

Er gwaetha’r cyfnod clo, fe wnaeth y band ryddhau eu EP cyntaf ar label Do It Thisen ym mis Tachwedd 2020 dan yr enw Gweler Ein Gofid. Casgliad byr gyda thair cân oedd hwn, ac mae mics newydd o’r prif drac, ‘Rwy’n Crwydro’ bellach wedi ryddhau fel sengl gyda Libertino ers dechrau mis Chwefror.

Byddan nhw hefyd yn rhyddhau sengl newydd, dwbl A, ar label Delicious Clam ar 26 Chwefror a hynny ar ffurf feinyl…sydd wastad yn beth da! Maen nhw’n amlwg yn mynd o nerth i nerth, yn hawlio sylw o sawl cyfeiriad ac yn ôl Donna yn cynllunio gigio yng Nghymru yn y dyfodol.

“Nid ydym erioed wedi chwarae yng Nghymru, felly cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny, rydym am chwarae’r famwlad!

Er gwell neu er gwaeth, ac er mor ddiog mae’n teimlo i wneud hynny, mae cymariaethau gydag Adwaith yn anochel. Nid yn unig gan mai merched ydy holl aelodau Sister Wives, ond hefyd diolch i genre eu cerddoriaeth a’r sŵn sydd heb os yn atgoffa rhywun o’r triawd o Gaerfyrddin. Mae’r berthynas gyda Libertino, sydd wedi bod mor ganolog i ddatblygiad Adwaith, hefyd yn cyfrannu at hyn. Ond sut ddatblygodd y cysylltiad hwnnw?

“Roedd Adam Walton wedi chwarae ‘Rwy’n Crwydro’ ar ei sioe radio ac roedd yn dweud geiriau ffeind iawn amdanon ni. Roedd yn hoff o’n sain a dwi’n credu fod Gruff o Libertino Records wedi ei glywed pan oedd yn mynd i siopa un diwrnod.

“Roedden ni wedi gweld  ar Twitter ei fod yn hoffi’r gân. Yn ddigon ffodus, roedd Libertino yn un o’n prif labeli i fynd ato i weld a fyddent yn hoffi rhyddhau ein cerddoriaeth, ond gyda’r cyfnod clo, nid oeddem yn credu ei bod yn deg gofyn i labeli ryddhau ein cerddoriaeth.

“Anfonais e-bost ato yn dweud fy mod wedi gweld ei Tweet, a gofyn a fyddai ddiddordeb mewn gweithio gyda ni, ac roeddem yn ddigon ffodus i gael ein cymryd o dan ei adain a rhyddau’r sengl.”

Mae’r sengl newydd hefyd eisoes wedi dechrau dal y sylw yn ôl y gantores, a’r trac Gymraeg, ‘I Fyny Af / Rise’, yn arbennig wedi bod yn cael ei chwarae dipyn ar y radio. Mae ymbrydoliaeth diddorol, lleol i Sheffield, i’r sengl newydd hefyd yn ôl Donna.

“Enw’r sengl AA ydy ‘Crags’, ac mae wedi cael ei enwi ar ôl ‘Creswell Crags’ – ceunant calchfaen a system ogofâu lle darganfuwyd offer a chelf cynhanesyddol, sy’n agos at Sheffield” eglura.

“Mae cannoedd o farciau amddiffynnol, a elwir hefyd yn ‘Witches Marks’, wedi cael eu darganfod yn Creswell Crags. Credir mai hwn yw’r casgliad mwyaf a ddarganfuwyd erioed yn y rhan yma o’r byd.

“Mae can arall y AA, ‘Crags’ yn gyfeiriad at y marciau gwrachod yma.”

 

Does dim amheuaeth bod Gruff Libertino wedi darganfod perl arall gyda Sister Wives, ac yn sicr mae rhywun yn synhwyro potensial enfawr i’r grŵp wrth iddynt gyd-weithio gyda’r label bywiog o Gaerfyrddin.

Er hynny, mae cynlluniau Sister Wives i’w gweld yn ddigon syml yn ôl Donna….

“Rydym yn bwriadu rhyddhau albwm eleni gan ein bod wedi bod yn ysgrifennu llawer o ddeunydd newydd.

“Rydyn ni eisiau chwarae rhai gigs yng Nghymru ac mae aelodau eraill y band yn mynd i ddysgu Cymraeg!”