Y cerddor grime a rap newydd, skylrk. oedd enillydd cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B eleni.
Prosiect cerddorol y gŵr ifanc o Ddyffryn Nanllte, Hedydd Ioan, ydy skylrk.
Wrth ymateb i’r newyddion, roedd Hedydd yn amlwg wrth ei fodd i gipio’r teitl.
“O ni byth yn disgwyl ennill y gystadlaeth, felly oedd o’n sioc mawr” meddai’r cerddor ifanc wrth Y Selar.
“Ond mae’r ymateb wedi bod yn wych a pawb wedi bod yn rhoi gymaint o gefnogaeth.
“Odd o’n brofiad gwych gallu cael y cyfle i ymgeisio ynghyd a gymaint o artistiaid ifanc a talentog arall, a dwi wir methu disgwyl i weld be fydd yn dod yn y dyfodol agos gan bob un ohonynt.”
Rhestr fer o bedwar
Mae Hedydd hefyd yn wneuthurwr ffilm addawol dros ben. Cafodd dipyn o sylw llynedd wrth gipio teitl ‘Cinemagic 2020 Young Filmmaker’ yn Belfast ar gyfer ei ffilm fer ‘Y Flwyddyn Goll’.
Beirniaid cystadleuaeth Brwydr y Bandiau eleni oedd Ifan Davies o’r grwpiau Sŵnami, Yr Eira ac Yws Gwynedd, a’r gyflwynwraig Elan Evans.
Daeth skylrk. i frig y rhestr fer o bedwar oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Y grwpiau eraill ar y rhestr fer yma oedd y grŵp indie-roc o Gaerdydd, Tiger Bay; y grŵp ifanc o Ddyffryn Nantlle, Cai; a’r grŵp o ddisgyblion Ysgol Plasmawr, Caerdydd – Band Mabon, Dylan, Rhys, Owen a Ieuan.
Cyn hynny roedd rhestr hir o 10 artist ifanc wedi cyhoeddi perfformiad ar Sianel YouTube Maes B fel rhan o’r gystadleuaeth. Yr artistiaid eraill ar y rhestr hir oedd Dafydd Hedd, Iestyn Gwyn Jones, Lucy Jenkins, Rhys Owen, Gofodwyr ar Goll a Tesni Hughes.
Perfformiad trawiadol
Daliodd skylrk. lygad y beirniaid gyda’i berfformiad trawiadol o’r gân ‘dall.’, ac mae’r gân honno digwydd bod wedi’i rhyddhau fel sengl gyntaf y prosiect ers dydd Gwener diwethaf, 6 Awst.
“Mae’r trac yn cwestiynu dyheadau hedonistic a byrbwyll skylrk. wrth i ni ei weld o’n gweiddi a sgrechian ac yn ceisio cuddio ei ansicrwydd” meddai Hedydd am y trac sy’n cyflwyno cymeriad skylrk. i ni.
“Mae’r gân yn gofyn be yda’ ni’n fodlon anwybyddu am ein hunain er mwyn ceisio cael rhyw fath o hapusrwydd byr a fleeting, dyma pam dwi di ei alw yn ’dall.’.
Ar gyfer Brwydr y Bandiau, fe berfformiodd skylrk. fersiwn wahanol o’r gân, ac mae hefyd fideo ar gyfer y sengl wedi’i gyhoeddi ar y dyddiad rhyddhau hefyd.
“Fe fydda i’n perfformio fersiwn arbennig o’r gân yn fyw gyda diweddglo hollol newydd i’r un fydd yn cael ei ryddhau” meddai Hedydd wrth Y Selar cyn y gystadleuaeth.
“Yn ogystal â’r perfformiad byw fyddwn i’n rhyddhau music video i gyd-fynd a’r gân ar yr un diwrnod wedi ei greu gan fy nghwmni cynhyrchu Trac 42 sydd wedi creu fideos ar gyfer bandiau eraill o fewn y sîn yng Nghymru.”
Gallwn edrych ymlaen at glywed mwy o gerddoriaeth gan skylrk. yn y dyfodol, a dywed y cerddor ei fod eisoes wedi dechrau gweithio ar ei drac nesaf a’i fod yn edrych ymlaen i ddangos mwy o’i waith.
“O ran y gwaith dwi’n ddatblygu, yr unig beth na’i ddweud ar hyn o bryd ydi bod pethau cyffrous iawn ar y ffordd!”
Dyma berfformiad skylrk. ar gyfer Brwydr y Bandiau: