Sywel Nyw i ryddhau 12 sengl yn 2021

Bydd y sengl gyntaf mewn cyfres uchelgeisiol gan yr artist Sywel Nyw allan ar ddydd Gwener 29 Ionawr.

Sywel Nyw ydy prosiect unigol y cerddor a chynhyrchydd Lewys Wyn, sy’n gyfarwydd iawn fel gitarydd a phrif ganwr y grŵp poblogaidd Yr Eira.

‘Crio Tu Mewn’ ydy enw’r sengl newydd ganddo ac mae’n cynnwys ymddangosiad gan gerddor amlwg iawn arall sef Mark ‘Cyrff’ Roberts, sydd wrth gwrs wedi bod yn aelod o sawl grŵp ond sydd bellach yn rhyddhau cerddoriaeth dan yr enw Mr.

Ac nid y trac hwn fydd yr unig esiampl o Sywel Nyw yn cyd-weithio ag artist arall mae’n debyg. Yn wir, drwy gydol 2021 bydd Sywel Nyw yn cyd-weithio ac yn cynhyrchu traciau gwreiddiol gyda deuddeg o artistiaid gwahanol o bob rhan o Gymru, gyda’r bwriad o ryddhau sengl newydd pob mis yn ystod y flwyddyn.

Perthynas unigryw

Label recordiau Lwcus T sy’n rhyddhau cerddoriaeth Sywel Nyw, ac yn ôl y label, er fod y caneuon wedi’u cyfansoddi a chynhyrchu o bell oherwydd cyfyngiadau Covid, mae’r sŵn yn anthemig ar gyfer cyfnod o ail-gyfarfod ac ail-gysylltu yn 2021.

“Mae gan bawb rwyf wedi gweithio â nhw ar y prosiect yma agwedd ei hunain tuag at gerddoriaeth” meddai Lewys Wyn.

“Drwy gyfuno hyn gyda fy sain fy hun dwi’n gobeithio y gallwn greu darn o waith arbennig a diddorol.

“Mae gan bob un o’r cyfansoddwyr berthynas unigryw gyda diwylliant Cymreig a ffordd unigryw o fynegi eu hunain.”

Breuddwyd annisgwyl

Cafodd ‘Crio Tu Mewn’ ei chyfansoddi gyda Mark Roberts, un o gyfansoddwyr amlycaf ei genhedlaeth, ac un a fu’n ddylanwad mawr ar Lewys o oedran cynnar. Fel aelod o’r Cyrff, Catatonia, Y Ffyrc, The Earth ac yn fwy diweddar Mr, mae Mark yn gyfrifol am gyfoeth o glasuron cyfoes.

Fel yr eglura Mark, yn ‘Crio Tu Mewn’, cawn stori fer am freuddwyd annisgwyl.

“Pan glywais y synths a’r peiriant dryms yn chwarae’r patrymau breuddwydiol oedd Lewys wedi ei recordio, roeddwn yn gwybod beth oeddwn eisiau ei wneud” meddai Mark.

“Roeddwn yn teimlo fod y cordiau yn swnio’n nostalgic, ond mewn ffordd eithaf mecanyddol. Felly penderfynais ysgrifennu am rywbeth dynol: rhamant, cariad a cholled.”

I gyd-fynd â dyddiad rhyddhau’r sengl ar 29 Ionawr, bydd fideo ar gyfer y trac hefyd yn cael ei gyhoeddi.