Mae her Sywel Nyw i ryddhau sengl newydd bob mis yn ystod 2021 yn parhau wrth iddo gyhoeddi ei wythfed sengl o’r casgliad ddydd Gwener diwethaf, 27 Awst.
‘Static Box’ ydy enw’r trac diweddaraf, ac y tro hwn mae wedi cyd-weithio â’r band poblogaidd Gwilym.
Yn ogystal â rhyddhau sengl bob mis, mae Sywel Nyw (sef prosiect unigol canwr a gitarydd Yr Eira, Lewys Wyn) wedi gosod yr her i’w hun o gydweithio gydag artist gwahanol bob tro.
Mae eisoes wedi rhyddhau senglau blaenorol gyda Mark Roberts, Casi Wyn, Gwenno Morgan, Gwenllian Anthony o’r grŵp Adwaith, Glyn Rhys-James o’r grŵp Melt, Lauren Connelly a Steff Dafydd o’r grŵp Breichiau Hir.
Y gwestai ar gyfer mis Awst ydi’r band Indie o Ogledd Gorllewin Cymru, Gwilym. Mae Gwilym yn un o fandiau newydd mwyaf poblogaidd Cymru ac yn adnabyddus am eu halawon a melodïau cofiadwy.
Braint
Mae ‘Static Box’ wedi’i ysgrifennu ar y cyd rhwng Lewys a’r band a mae cynnwys y gân yn dwyn cymhariaeth rhwng opera sebon a bywyd go iawn, yn cyfeirio at bobl sy’n gweld y byd drwy eu llygaid sgwar.
Ffryntman Gwilym ydy Ifan Pritchard, ac wrth drafod y prosiect mae’n amlwg wedi mwynhau’r profiad o gyfansoddi ar y cyd â Sywel Nyw.
“Ma’n fraint i fod ymysg y garfan yma o artistiaid sy’n rhan o’r gyfrol, ond y fraint fwya’ oedd cael dyfeisio’r gân hefo Lewys ac addasu ein ffor ni o sgwennu i’w weledigaeth greadigol o” meddai Ifan.
“Er cymaint ma’ Zoom yn codi cyfog erbyn hyn, oedd y sesiyna’ yma’n aur, a mae’r gân yn un fydda ni’n cario hefo ni am amser hir!”
Dyma ‘Static Box’: