Sywel Nyw yn rhyddhau ‘Amser Parti’

‘Amser Parti’ ydy enw sengl ddiweddaraf Sywel Nyw yn 2021, a’r tro hwn mae wedi cyd-weithio â’r gantores Dionne Bennett. 

Dyma’r unfed sengl ar ddeg o’r flwyddyn hyd yma i Sywel Nyw, sef prosiect unigol Lewys Wyn o’r Eira, wrth iddo geisio rhyddhau un bob mis eleni gan gyd-weithio ag artist gwahanol bob tro. 

Gwestai mis Tachwedd y prosiect ydy’r gantores, perfformwraig a’r diva cyffredinol, Dionne Bennett.

Mae gan Dionne arddull hynod unigryw, a’i phŵer lleisiol yn nodweddiadol iawn. Mae’r gantores wedi canu a pherfformio gydag artistiaid rhyngwladol gan gynnwys Maceo Parker, The Peth a The Earth.

Er mai yn y Saesneg mae Dionne wedi canu’n bennaf yn y gorffennol, mae’r gantores wedi bod yn brysur yn dysgu Cymraeg dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae ei chyfraniad i’r gân yma’n brawf anhygoel o’i thalent amrwd. 

Mae’r gân am rhyddid post pandemic, ymdeimlad o egni a’r awydd i fyw!” meddai Dionne am y sengl newydd. 

Yn wahanol i’r senglau sydd wedi’u rhyddhau’n flaenorol eleni, mae cerddorion eraill wedi cyfrannu at recordiau ‘Amser Parti’. Un o’r rhain ydy’r drymiwr Kliph Scurlock o’r band The Flaming Lips, ynghyd â band Gruff Rhys, sydd wedi darparu’r beats cyffrous sydd i’w clywed ar y trac. Mae chwaer Lewys, sef y gantores dalentog Casi Wyn, hefyd wedi cyfrannu lleisiau ychwanegol ar y recordiad. 

Mae ‘Amser Parti’ allan ers dydd Gwener 26 Tachwedd ar label Lwcus T.