Tafwyl 2021 i’w gynnal ar-lein

Mae trefnwyr gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi na fydd y digwyddiad blynyddol yn cael ei gynnal yn ei ffurf arferol eto eleni oherwydd y pandemig.

Yn hytrach na hynny, bydd yr ŵyl gelfyddydol yn cael ei chynnal yn ddigidol ar ddydd Sadwrn 15 Mai gyda’r perfformiadau cerddorol yn cael eu darlledu o leoliad arferol Tafwyl yng Nghastell Caerdydd.

Bydd yr ŵyl rithiol yn gyfuniad o gerddoriaeth fyw, llenyddiaeth, trafodaethau a gweithgareddau i’r plant mewn rhaglen sydd, yn ôl y trefnwyr, yn rhaglen uchelgeisiol o ddigwyddiadau.

Pen-blwydd pymtheg oed

Llynedd, Tafwyl oedd y digwyddiad cyntaf ym Mhrydain ers cyflwyno cyfyngiadau iechyd a diogelwch Covid-19 i gynnig llwyfan i artistiaid chwarae’n fyw o leoliad arferol yr ŵyl.

Unwaith eto eleni bydd y gerddoriaeth yn dod o gartref yr ŵyl yng Nghastell Caerdydd.

Mae Tafwyl yn dathlu pen-blwydd yn bymtheg oed eleni, a’r bwriad yn ôl y trefnwyr ydy adeiladu ar y profiadau newydd a ddaeth yn sgîl yr ŵyl rithiol llynedd, parhau i gynnal ei ysbryd croesawgar a chynhwysol, a throi’r her yn gyfle i ddenu cynulleidfaoedd newydd i brofi celfyddyd a diwylliant Cymreig.

Bydd gweithgareddau’r ŵyl yn cael eu ffrydio’n fyw ar wefan AM drwy gydol y dydd ar ddydd Sadwrn 15 Mai.

Mae’n debyg i Tafwyl 2020 lwyddo i ddenu cynulleidfa fyd-eang, gyda thros 25,000 yn mwynhau’r arlwy o gartref.

Yn ogystal ag o Gaerdydd a Chymru, bu i’r digwyddiad rhithiol ddenu pobl i wylio o UDA, Japan, Yr Iseldiroedd, Sbaen a Ffrainc ymysg gwledydd eraill.

Clwb Ifor Bach sydd yng nghofal y gerddoriaeth unwaith eto eleni, a byddan nhw’n curadu cymysgedd eclectig o artistiaid i berfformio.

Mae Menter Caerdydd wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Chyngor Caerdydd i gynnal Tafwyl 2021. Bydd cyhoeddiadau pellach am arlwy’r ŵyl yn dilyn dros y misoedd nesaf.