Teyrnged Papur Wal at gyfeillgarwch

Mae Papur Wal wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Mawrth diwethaf, 24 Awst.

Arthur’ ydy enw’r trac newydd, a dyma’r ail sengl oddi ar eu halbwm cyntaf ‘Amser Mynd Adra’, fydd yn cael ei ryddhau ar 8 Hydref eleni.

Mae ‘Arthur’ yn ddilyniant i’r blas cyntaf a gafwyd i’r albwm newydd, sef y sengl ‘Llyn Llawenydd’ a ryddhawyd ddiwedd mis Gorffenaf – cân hafaidd sy’n adlais o sŵn West Coast y 1970au cynnar.

Mae ‘Arthur’ yn deyrnged at gyfeillgarwch yn ôl y grŵp ac wedi’i ysbrydoli gan ddigwyddiad go iawn.

“Mae’n gân am ffrind annwyl i ni, Arthur, a noson wyllt yn Llundain gydag ef yn 2020” eglura’r band.

“Mae’r gytgan yn cyfri i lawr o 8 i 2, ac yn adrodd neges ddaru Arthur ein hatgoffa ni ohono ar y noson dyngedfennol honno – mai Ianto (Gitâr / Llais) yw ein ail ffrind gorau, yn dilyn Gwion (Gitâr / Llais), a does dim all neb wneud am y peth.

“Mae hefyd yn cyfeirio tuag at Anthony Bourdain, gwirioneddau trawiadol, a chyfrinachau cudd. Cafodd ei ddylanwadu gan Nils Lofgren, Bruce Springsteen a Teenage Fanclub.”

Cafodd y sengl ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen Georgia Ruth ar BBC Radio Cymru wythnos diwethaf, ac mae’r grŵp hefyd wedi cyhoeddi fideo i gyd-fynd â’r trac. Mae’r fideo wedi’i greu gan Billy Baglihole, sef cyfarwyddwr mae’r grŵp wedi gweithio ag ef sawl gwaith yn y gorffennol gan gynnwys ar y fideos poblogaidd ‘Yn y Weriniaeth Tsiec’ a ‘Meddwl am Hi’.

Bydd sawl cyfle i weld Papur Wal yn perfformio’n fyw dros yr wythnosau nesaf, dyma grynodeb o’r dyddiadau hynny:

25 Medi – Tiny Rebel, Caerdydd
2 Hydref – Llwyfan Libertino, Penwythnos Talacharn
9 Hydref  – Focus Wales
23 Hydref – Gŵyl Fringe Abertawe
20 Tachwedd – Neuadd y Frenhines, Arberth