Bydd The Mighty Observer yn rhyddhau EP newydd o’r enw ‘Okay, Cool’ ar label Recordiau Cae Gwyn ddiwedd mis Hydref.
The Mighty Observer ydy prosiect unigol yr aml-offerynnwr Garmon Rhys, sydd hefyd yn aelod o Melin Melyn a bydd yr EP newydd allan yn swyddogol ar 29 Hydref.
Ysgrifennodd a recordiodd Garmon yr EP newydd ‘Okay, Cool’ mewn stiwdios DIY yng Nghymru a Llundain.
Ma’r cerddor amryddawn wedi’i drwytho â gitarau metelaidd cynnes a mwmial isel rhwydd dan ddylanwad Kurt Vile, Sam Evian a Mac DeMarco ymhlith eraill.
Ail record fer
Okay, Cool ydy’r ail EP i ymddangos gan The Mighty Observer yn ystod 2021 ar ôl i’r record fer Gweld y Byd / See The World gael ei rhyddhau ym mis Mawrth.
Dyma oedd record gyntaf prosiect unigol basydd Melin Melyn ar ôl iddo ddechrau gweithio ar ei gynnyrch yn ystod y cyfnod clo.
Roedd ‘Gweld y Byd’ yn dilyn cyfres o senglau a ryddhawyd gan The Mighty Observer dros fisoedd yr hydref 2020 gan gynnwys ‘Diflannu’ a ‘Drifting’ ym mis Medi, ‘Superman Daydream’ ym mis Hydref a ‘Niwl’ ym mis Tachwedd.
“Prosiect gafodd ei eni yn ystod y cyfnod clo cyntaf ydi The Mighty Observer, er i’r syniad fod yn hir ddatblygu yng nghefn y meddwl ers blynyddoedd” meddai Garmon Rhys am ei brosiect unigol ar y pryd.
“Mae cyfyngiadau y pandemig wedi’n gorfodi ni i fod yn greadigol mewn ffyrdd newydd, felly dwi’n ymfalchïo yn yr agwedd DIY / lo-fi sydd i’r recordio” ychwanegodd.
Mae caneuon The Mighty Observer wedi cael eu chwarae ar BBC 6 Music, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru.
Bydd yr EP ‘Okay, Cool’ yn cael ei ryddhau’n ddigidol ar yr holl lwyfannau arferol ar 29 Hydref.
Dyma’r sengl ‘Gweld y Byd’: