Mae The Mighty Observer wedi rhyddhau EP newydd o’r enw Okay, Cool ar label Recordiau Cae Gwyn ers dydd Gwener diwethaf, 29 Hydref.
The Mighty Observer ydy prosiect unigol yr aml-offerynnwr Garmon Rhys, sydd hefyd yn aelod o’r grŵp Melin Melyn – band sydd wedi creu argraff fawr yn ddiweddar.
Ysgrifennodd a recordiodd Garmon yr EP newydd Okay, Cool mewn stiwdios DIY yng Nghymru a Llundain.
Okay, Cool ydy ail EP prosiect unigol The Mighty Observer, gyda’r cyntaf, sef Gweld y Byd / See The World, yn ymddangos ym mis Mawrth eleni.
Dyma oedd record gyntaf prosiect unigol basydd Melin Melyn ar ôl iddo ddechrau gweithio ar ei gynnyrch ei hun yn ystod y cyfnod clo.
Roedd Gweld y Byd yn dilyn cyfres o senglau a ryddhawyd gan The Mighty Observer dros fisoedd yr hydref 2020 gan gynnwys ‘Diflannu’ a ‘Drifting’ ym mis Medi, ‘Superman Daydream’ ym mis Hydref a ‘Niwl’ ym mis Tachwedd.
Mae Garmon wedi’i ddylanwadu’n drwm arno gan gitars metelaidd cynnes artistiaid fel Kurt Vile, Sam Evian a Mac DeMarco ymhlith eraill.
“Prosiect gafodd ei eni yn ystod y cyfnod clo cyntaf ydi The Mighty Observer, er i’r syniad fod yn hir ddatblygu yng nghefn y meddwl ers blynyddoedd” meddai Garmon Rhys am ei brosiect unigol ar ddechrau 2021.
“Mae cyfyngiadau y pandemig wedi’n gorfodi ni i fod yn greadigol mewn ffyrdd newydd, felly dwi’n ymfalchïo yn yr agwedd DIY / lo-fi sydd i’r recordio” ychwanegodd.
Mae’r EP Okay, Cool allan ddigidol ar yr holl lwyfannau arferol.
Dyma ‘Aros am yr Haul’ o’r EP: