Torf ar gyfer Tafwyl

Er mai gŵyl rhithiol fydd Tafwyl eleni, mae’r trefnwyr (Menter Caerdydd) wedi cyhoeddi bod cyfle i hyd at 500 o bobl fynychu’r ŵyl yn y cnawd.

Cynhelir yr ŵyl yng Nghastell Caerdydd ddydd Sadwrn yma, sef 15 Mai, a rhwng 17:00 a 21:00 bydd 500 o gynulleidfa yn cael mynediad i’r digwyddiad.

Dyma’r arbrawf cyntaf o’r fath yng Nghymru ar gyfer digwyddiad fel hyn ac roedd modd i bobl wneud cais am docyn erbyn 19:00 nos Wener diwethaf, 7 Mai.

Bydd cerddoriaeth yn cael ei ffrydio’n ddigidol o’r ŵyl rhwng 12:30 a 22:00 ar y diwrnod, gyda Plu, Thallo, Cowbois Rhos Botwnnog, Eädyth, Mared, Gwilym a Geraint Jarman ymysg yr enwau sy’n perfformio.