Trac comisiwn i ddathlu Eisteddfod Llangollen

Wrth i Eisteddfod Llangollen ddychwelyd eleni, yn bennaf fel digwyddiad ar-lein, mae trac arbennig wedi cael ei gomisiynu i ddathlu’r achlysur.

Bydd yr Eisteddfod ryngwladol, sy’n cael ei chynnal yn nhref Llangollen ers 1947, yn digwydd dros benwythnos 8 – 11 Gorffennaf eleni gyda rhaglen o weithgareddau amrywiol i’w gweld am ddim ar-lein.

Gan gyd-weithio gyda chynllun Gorwelion BBC Cymru, mae’r Eisteddfod wedi comisiynu tri o artistiaid i ddod ynghyd i greu’r trac newydd sbon, ‘Home / Adref’.

Yr artistiaid dan sylw ydy Rachel K Collier, Magugu a Lily Beau ac mae’r trac allan yn swyddogol heddiw, 7 Gorffennaf.

Creu hanes

Cynhyrchydd a pherfformiwr electronig o Abertawe ydy Rachel K Collier.

Mae Magugu yn rapiwr pidgin sydd wedi’i eni yn Nigeria – steil rapio unigryw sy’n defnyddio tafodiaith sy’n gymysg o iaith Nigeria a Saesneg ydy ei steil pidgin.

Bydd enw Lily Beau efallai’n fwy cyfarwydd – mae’r canwr-gyfansoddwr ddwy-ieithog (Cymraeg a Saesneg) wedi bod yn perfformio a rhyddhau cerddoriaeth ers sawl blwyddyn bellach.

Cyfarfu’r tri yn stiwdio Rachel ger Abertawe i gyfansoddi a recordio’r trac.

Dyma oedd y tro cyntaf i’r cerddorion gyfarfod ei gilydd, ond erbyn diwedd y dydd roeddent wedi creu hanes wrth gyfansoddi’r gân gyntaf i gynnwys yr iaith Saesneg, Cymraeg a Pidgin Nigeraidd.

Yn ogystal â’r trac gwreiddiol, bydd ailgymysgiadau, cyfyrs, a deuawdau arbennig o’r gân i’w gweld ar tik tok dros yr wythnos nesaf, a bydd ffilm arbennig o broses gyfansoddi a recordio’r trac wedi’i greu gan yr artist Rhys Grail ar gyfer wefan Gorwelion.

Ail-greu awyrgylch

Yn ôl trefnwyr yr Eisteddfod, mae’r trac yn un o’r nifer o weithgareddau sy’n cael eu trefnu i geisio ail-greu awyrgylch liwgar strydoedd Llangollen yn ystod yr ŵyl.

Er mai ar y we fydd hynny eleni, maent am annog eu cynulleidfa ryngwladol i ddawnsio i’r gân a chynrychioli eu gwledydd a chartrefi.

Maent hefyd yn annog pawb sy’n mynd ati i greu dawns ar gyfer y trac i yrru fideo iddynt ac i greu calon gyda’u llaw wrth wneud hynny.

Bydd modd gwylio gweithgareddau Eisteddfod Llangollen ar eu gwefan a chyfryngau cymdeithasol.