Trac newydd Awst

Mae Awst, sef prosiect unigol Cynyr Hamer o’r grwpiau Worldcub (CaStLeS gynt), Hippies vs Ghosts ac We Are Animal, wedi rhyddhau trac newydd ar ei safle Bandcamp.

Enw’r sengl newydd ydy ‘The Wind Humms a Secret’ ac mae ar gael ar Bandcamp ers dydd Iau 21 Hydref.

Rhyddhawyd cynnyrch cyntaf Awst, sef y sengl ddwbl ‘Lloeren’ a ‘Send a Sign to the Satellite’ ym mis Ebrill eleni ac yn ôl y cerddor mae ganddo lwyth o gerddoriaeth wedi’i recordio ac yn barod i fynd.