Mae prosiect newydd y cynhyrchydd cerddoriaeth amlwg, Endaf, yn rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ddydd Gwener yma, 19 Tachwedd.
‘Hide’ ydy enw’r trac newydd mae’n rhyddhau dan yr enw Nosda, sef yr enw mae’n defnyddio i ryddhau ei gerddoriaeth Saesneg. Mae ‘Hide’ yn ei weld yn partneriaethu gyda cherddor arall, sef The Honest Poet.
Dyma’r drydedd sengl i Endaf ryddhau dan yr enw Nosda, ac mae’r trac allan ar ei label ei hun, High Grade Grooves. Canwr-gyfansoddwr o Dde Cymru ydy The Honest Poet (THP) sydd â llais soul unigryw, llawn angerdd.
Mae barddoniaeth yn chwarae rôl bwysig yng ngherddoriaeth THP gan blethu hip hop, soul a spoken word gyda geiriau gonest.