Trac Yws i gefnogi Cymru

Mae Yws Gwynedd, ar y cyd â BBC Radio Cymru wedi lansio eu hymgyrch i gefnogi tîm pêl-droed Cymru yn Ewro 2020 ar ffurf sengl newydd.

‘Ni Fydd y Wal’ ydy enw’r sengl newydd gan Yws Gwynedd sy’n dathlu’r ffaith bod Cymru’n cael chwarae ym mhencampwriaeth Ewro 2020, er bod hynny flwyddyn yn ddiweddarach na’r disgwyl.

Roedd y band wedi ysgrifennu’r gân dros flwyddyn yn ôl ym mis Mawrth 2020 pan oedd y bencampwriaeth ar y gorwel, gyda’r bwriad iddi fod yn anthem i BBC Radio Cymru ar gyfer yr ymgyrch.

Wrth gwrs, daeth y pandemig i chwalu’r cynlluniau bryd hynny, ond bellach mae’r tîm yn paratoi unwaith eto gyda’r bencampwriaeth yn dechrau mewn ychydig wythnosau.

Colli pwysau’n ysgogi fideo 

Mae fideo wedi’i greu i gyd-fynd â’r trac newydd ac fe ffilmiwyd y mwyafrif ohono wrth i’r gân gael ei chyfansoddi. Roedd syniad gwreiddiol y fideo’n dod o fwriad y canwr 37 oed i golli pwysau ar ôl dathliadau Nadolig 2019, ond diolch i’r pandemig, gohirio’r bencampwriaeth a dau gyfnod clo, mae’r broses o greu ac addasu’r gân wedi bod yn fwy cymhleth…a’r broses o golli’r pwysau!

“Roedd cael cysyniad i’r fideo’n hawdd, ond er mwyn ei ffilmio, roedd rhaid i fi golli tua stôn” eglura Yws.

“Nes i gal syniad a saethu 75% o’r fideo cyn sgwennu’r gân! Oni di rhoi loads o bwysa on am un rheswm neu’r llall so nes i gal help Jason Jones – ffrind gora oedd yn arfer bod yn personal trainer i neud y fideo.

Athon ni i [stiwdio] Bing bythefnos cyn y lockdown cynta’ i sgwennu’r gân, recordio hi w’sos wedyn ag oedd pawb yn ll’nau dwylo efo’r stwff anti-bac na achos bo ni di clwad fod ’na lockdown yn dod, a doedda ni ddim rili siŵr os dylia ni di mynd i stiwdio!

“Oni’n due i orffan y fideo efo Daf Nant gwpl o wythnosau wedyn ond wrth gwrs oedda’ ni methu a dros y misoedd nesa nes i roi’r stôn nôl ymlaen.”

Newid cynllun = newid geiriau

Felly roedd y gân wedi’i hysgrifennu cyn i’r pandemig gyrraedd Cymru’n swyddogol, ond wrth gwrs mae tipyn o ddŵr wedi llifo dan y bont ers hynny, a thipyn o newid i drefniadau pencampwriaeth Ewro 2020 er mwyn ei chynnal yn 2021.
Roedd rhaid i Yws ail-afael yn ei bensel felly ac addasu rhywfaint ar eiriau gwreiddiol ‘Ni Fydd y Wal’, ac ail-afael yn gwaith ffitrwydd.
“Natho ni orfod ail sgwennu rhai o’r lyrics am fod y gystadleuaeth wedi newid dyddiad a strwythr a nes i orfod ail golli’r pwysau i orffan ffilmio’r fideo, ond yn eitha diddorol, oedd y lyric cynta “dwi di bod yn meddwl am yr haf mor hir, ma’n brifo fi” yna ers y cychwyn.”
“Ddoth y gân yn eitha naturiol, jyst isio neud wbath hafaidd a chadarnhaol… as usual! Oedd y geiria’n eitha hawdd i ’sgwennu gan fod posib galw ar y teimladau gafo ni yn Euro 2016.
“Oedd ‘Ni Fydd y Wal’ yna ers y cychwyn fel geiriau hefyd, sy’n eitha eironig oherwydd yr ystyr ddwbl – fydd y wal ddim yna wrth gwrs. “

Ac mae hynny’n destun tristwch i Yws, fel cymaint o gefnogwyr eraill Cymru ond o leiaf mae gweld traciau fel ‘Ni Fydd y Wal’, ymysg eraill sy’n dathlu’r ffaith bod ymgyrch Ewro 2020 Cymru ar fin dechrau, yn ysgogi bach o gyffro ynglŷn â’r bencampwriaeth.

Mae Yws hefyd yn un o gyflwynwyr rhaglen deledu newydd ‘Y Wal Goch’ ar S4C sy’n paratoi’r cefnogwyr at y bencampwriaeth. Bydd cyfle cyntaf i weld y fideo nos Wener yma ar y rhaglen mae Yws yn ei disgrifio fel “Uned 5 efo ffwtbol” â’i dafod yn ei foch.

Mae’r fideo i’w weld ar-lein cyn hynny ar wefan Radio Cymru ac ar YouTube, gyda’r sengl allan yn swyddogol ddydd Gwener yma, 21 Mai.

Dim ond gwaith celf dros dro fydd i’r sengl i ddechrau, a’r rheswm am hynny ydy gan fod Yws a BBC Radio Cymru’n rhoi cyfle i gefnogwyr Cymru fod ar y gwaith celf gorffenedig trwy yrru lluniau o’u hunain yn gwisgo crys coch i BBC Radio Cymru.

Dyma’r fideo: