Wrth ryddhau ei drydedd sengl unigol, mae’r cerddor o Ddyffryn Clwyd, Morgan Elwy, hefyd wedi cyhoeddi manylion rhyddhau ei albwm cyntaf.
Enw ei sengl newydd ddiweddaraf ydy ‘Curo ar y Drws’ ac mae allan ers dydd Gwener diwethaf, 16 Ebrill. Mae’r trac newydd yn ddilyniant i’w ddwy sengl flaenorol sef ‘Aur Du a Gwyn’ a ryddhawyd fis Chwefror, a ‘Bach o Hwne’ a ymddangosodd ym mis Mawrth.
Mae ‘Curo ar y Drws’ yn cyffwrdd ar elfennau roc seicadelig gwerinol Cymraeg, a daw neges o obaith drwy gwmwl o hiraeth ac unigrwydd drwy gydol y gân.
Ar y sengl mae Morgan yn chwarae’r Djembe, bass, gitars, lleisiau a synth gyda Leon Davies yn ymuno ar y drymiau.
Mae dylanwadau artistiaid fel Gruff Rhys, Kurt Ville, Big Leaves a Brian Johnstown Massacre i’w clywed yn glir ar y trac arbennig hwn.
Fideo ac albwm
I gyd-fynd â rhyddhau’r sengl, mae fideo cerddoriaeth ar gyfer y trac yn cael ei ryddhau gyhoeddi ar-lein.
Mae’r fideo’n dilyn arddull fideos ei senglau blaenorol gyda chyfres o animeiddiadau a lluniau byw wedi’u ffilmio ar draws Gogledd Cymru gan Morgan ei hun.
Y newyddion pellach ydy bod Morgan hefyd wedi cyhoeddi manylion rhyddhau ei albwm cyntaf, ‘Teimlo’r Awen’.
Bydd record hir gyntaf basydd y band Trŵbz allan ar 7 Mai dan adain label Bryn Rock.
Deg o draciau sydd ar yr albwm, yn seiliedig ar rythmau reggae yn bennaf ond gydag elfennau o gerddoriaeth werin, roc a phop hefyd.
Bydd yr albwm yn cael ei ryddhau ar fformat CD yn ogystal ag yn ddigidol, ac mae cyfle i rag archebu’r record ar safle Bandcamp Morgan nawr.
Dyma fideo’r sengl newydd: