Mae lleoliad Tŷ Pawb yn Wrecsam wedi lansio galwad agored am artistiaid cerddorol sy’n awyddus i berfformio’n fyw yno yn ystod 2021-22.
Maent yn gwahodd pobl greadigol gerddorol i gyflwyno ceisiadau i ymddangos yn eu rhaglen gerddoriaeth fyw, yn ddigidol ac yn yr adeilad.
Ers cyflwyno cyfyngiadau o ganlyniad i’r pandemig ym mis Mawrth llynedd, mae Tŷ Pawb wedi bod yn cyflwyno eu rhaglen gerddoriaeth fyw mewn fformat ddigidol yn unig drwy Facebook Live ac ar eu sianel YouTube. Maent wedi cynnal 20 sesiwn byw gan artistiaid ar-lein sydd wedi’u gwylio dros 40,000 o weithiau, gan gefnogi pobl greadigol gerddorol yn ystod y cyfnod heriol yma i’r diwydiant.
Bydd y sesiynau byw hyn yn parhau drwy gydol 2021, ac i mewn i 2022, ac mae’r lleoliad yn chwilio yn galw ar bobl greadigol gerddorol i ddatgan diddordeb i berfformio.
Y bwriad ydy llunio rhaglen berfformiadau â thâl ar-lein ac, unwaith bydd y cyfyngiadau’n cael eu codi, yn yr adeilad ei hun.
Gall y sesiynau digidol fod ar ffurf ffrwd fyw neu sesiwn fyw wedi’i recordio ymlaen llaw a ddarlledir fel ‘Premiere’ ar Facebook a YouTube.
Roedd y sesiwn ddiweddaraf gan Tŷ Pawb yn cael ei ddarlledu nos Wener diwethaf, 12 Chwefror, sef perfformiad gan enillydd dwy o Wobrau’r Selar eleni, Mared.
Dyma’r sesiwn gan Mared: