Mae’r grŵp Ystyr wedi rhyddhau eu sengl diweddaraf ers dydd Gwener 13 Awst.
Enw’r trac newydd gan y grŵp a ddaeth i amlygrwydd yn ystod cyfnod y pandemig ydy ‘Tyrd a Dy Gariad’, ac mae allan ar label Curiadau Ystyr.
Ystyr ydy’r prosiect sy’n cyfuno doniau gitarydd y grŵp Plant Duw, Rhys Martin; ei gefnder, Owain Brady; Rhodri Owen, gynt o Cyrion a Yucatan; a’r artist celf gweledol, Pete Cass.
A hwythau wedi bod yn arbrofi’n gerddorol gyda’i gilydd ers blynyddoedd, penderfynodd Rhys ac Owain ffurfio Ystyr ar ddechrau 2020, ac maent wedi rhyddhau cyfres o draciau’n rheolaidd ers hynny.
Hyd yma yn 2021 mae’r grŵp wedi rhyddhau dwy sengl gan gydweithio gydag artistiaid unigol eraill sef ‘Noson Arall y Ffair’ gyda’r rapiwr Mr Phormula ym mis Mawrth, ac yna ‘Adferiad’ gyda’r artist electronig Teleri ym mis Mai.
Gyda’r sengl hon, dim ond Ystyr sydd ar y trac ac yn ôl y grŵp mae’n ffrwydrad o orfoledd i ddathlu’r amseroedd gwell sydd i ddod yn dilyn y deunaw mis heriol diwethaf. Dyma arbrofi mewn arddull arall i fynegi’r cymysgedd ddryslyd o emosiynau rydym ni gyd wedi ei deimlo dros cyfnod Covid, gan gynnwys iselder, llonyddwch, dicter, tristwch, hapusrwydd, unigrwydd, cariad a gobaith.
Mae’r grŵp wedi cyhoeddi fideo i gyd-fynd â’r sengl, fideo sy’n gasgliad o hen glipiau fideo teuluol wedi’i eu taflu ynghyd. Yn ôl Ystyr, bwriad y fideo ydy cofio pa mor gyflym, rhyfedd a hyfryd yw ein bywydau byr ar y ddaear ym, ac i geisio dangos beth sydd wir yn bwysig, sef i fyw.