V U, ond wedi’i ail-gymysgu

Mae pum mlynedd ers i’r grŵp lliwgar, Rogue Jones, ryddhau eu halbwm cyntaf, ‘V U’, ac er mwyn nodi’r achlysur byddant yn rhyddhau casgliad o ail-gymysgiadau o ganeuon yr albwm ddiwedd mis Ebrill.

Bydd y fersiwn newydd o’r albwm allan ar 30 Ebrill, ac mae’r grŵp wedi gofyn i ddeg o’u cyfeillion cerddorol i fynd i’r afael â chaneuon y record.

Mae’r artistiaid sydd wedi cymryd rhan yn cynnwys Rob Ackroyd o’r grŵp Florence and the Machine, 9Bach, Ani Glass a Pat Morgan o’r grŵp Datblygu.

Rhoi rhyddid creadigol

Roedd mis Hydref diwethaf yn nodi union 5 mlynedd ers rhyddhau’r albwm, a bryd hynny dechreuodd BBC Radio Cymru chwarae fersiwn wedi’i ail-gymysgu o drac gwahanol o’r casgliad yn wythnosol. Er hynny, dyma fydd y tro cyntaf y bydd modd i bawb glywed yr casgliad fel cyfanwaith.

“Er bod y prosiect wedi bod ar waith ers peth amser, mae’r flwyddyn ddiwetha wedi rhoi’r ffocws i’w gwblhau ac estyn allan at gerddorion eraill mewn cyfnod mor ynysig” meddai Ynyr Morgan Ifan o’r band wrth drafod y broses o guradu’r albwm.

“Ond nid proses gydweithredol oedd hon – penderfynwyd yn gynnar yn y broses ein bod am roi rhyddid creadigol llwyr i’r ail-gymysgwyr.

“Byddai pob un elfen o’r traciau gwreiddiol yn cael eu gyrru i’r ail-gymysgwyr, i lawr i’r darnau lleiaf – clip 3 eiliad o symbal, pick-up o lais cefndir vocoder neu ddarn o farddoniaeth na wnaeth hi i’r trac gorffenedig – falle bod hyn wedi gorfodi yr ail-gymysgwyr i symud ymhellach wrth y gwreiddiol na sy’ arfer digwydd.”

Recordiau BLINC fydd yn rhyddhau’r fersiwn newydd o ‘U V’ ddiwedd y mis, ond mae eisoes tamaid i aros pryd ar ffurf fersiwn newydd y trac ‘Pysgota’ sydd wedi’i ail-gymysgu gan Anelog.

Y newyddion da pellach ydy bod albwm newydd sbon ar y gweill gan Rogue Jones hefyd, gyda gobaith o ryddhau’n fuan yn ôl Ynyr.

“Mae’r albwm ail-gymysgiadau wedi bod ar waith ers rhyw 3 mlynedd ac wedi bod yn cyd-redeg gyda sesiynau recordio ail record y band, sesiynau sydd wedi bod yn tueddu tuag at yr arbrofol a’r electronig.”

Hyfryd o arswydus

Prif ganwr Rogue Jones ydy’r enigma, Bethan Mai, ac mae’n cyfaddef bod rhoi caneuon y grŵp yn nwylo cerddorion eraill i’w dehongli yn brofiad oedd yn codi ofn arnynt ryw ychydig.

“Mae rhoi un o’ch caneuon, llawer sy’ wedi cymryd chwys ac enaid i’w creu, yn nwylo artist arall a gadael iddo fe neu hi i’w rhwygo’n ddarnau, ei blygu, ei droi tu fewn tu fas a’i drawsnewid i rywbeth hollol wahanol yn rhywbeth hyfryd o arswydus ond mae’n rhywbeth llesol i artist i wneud” meddai Bethan.

“Mae hwn yn ddathliad o’r ffaith bod darn o gelfyddyd, unwaith mae e wedi gadael dwylo’r crëwr, yn cymryd mlaen bywyd ei hun a’n cael ei ddehongli yn unigryw i bob gwrandäwr.

“Mae’n ddathliad o sut mae meddwl pob artist yn gallu ein harwain at dir newydd, a pha well artistiaid i’n harwain na’r rhain.

“Ni’n caru pob un ail-gymysgiad a’n ddiolchgar i bawb wnaeth gymryd rhan a rhoi bywyd newydd i’r caneuon – Rob Ackroyd, Anelog, 9 Bach, Pat Morgan, Ëadyth, Ani Glass, BITW, Carw, Frank Naughton a H O R S E S.”

Bydd yr albwm yn cael ei ryddhau’n ddigidol ar y prif wasanaethau lawr lwytho a ffrydio, a drwy siop ar-lein BLINC.

Rhestr traciau fersiwn newydd ‘U V’

  1. Halen (BITW Remix)
  2. Pysgota (Anelog Remix)
  3. Hungry (Frank Naughton Remix)
  4. Afalau (AniGlassRemix)
  5. Priscilla (H O R S E S Remix)
  6. Baby (Pat Morgan Remix)
  7. King Is Dead (Rob Ackroyd Remix)
  8. Little Pig of Tree (9BachRemix)9
  9. Kelly (Ëadyth Remix)
  10. Human Heart (Carw Remix)