Bydd gŵyl rhithiol Wales Goes Pop! 2021 yn cael ei chynnal dros benwythnos 2-4 Ebrill. Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal yn flynyddoedd dros benwythnos y Pasg, fel arfer yn lleoliad The Gate yng Nghaerdydd, ers 2013.
Yn anffodus, am yr ail flwyddyn yn olynol does dim modd cynnal yr ŵyl yn y ffurf arferol eleni, ond mae’r trefnwyr yn cynnal digwyddiad ar eu llwyfannau digidol.
Ymysg yr enwau sy’n perfformio mae She’s Got Spies, Aderyn, Chavlaes, Cheerbleederz, Nos Miran, Lunar Bird, Fightmilk, Simon Love, Oddly a mwy.
Mae’r ŵyl yn rhad ac am ddim ar Facebook a sianel YouTube Wales Goes Pop! ond mae croeso i bobl wneud cyfraniad i’r artistiaid.