Wedi wythnos o gyhoeddiadau, cyfweliadau a sesiynau ar donfeddi Radio Cymru, mae rhestr enillwyr Gwobrau’r Selar bellach yn gyflawn, ac wedi bod yn ddathliad o waith caled artistiaid Cymraeg yn ystod 2020.
Fel arfer, yr adeg hon o’r flwyddyn, mae tîm Y Selar yn paratoi ar gyfer penwythnos mawr o ddathlu enillwyr eu gwobrau cerddorol blynyddol gyda thua 1500 o bobl yn heidio i Aberystwyth o bob cwr o Gymru,
Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau Covid-19, doedd dim modd cynnal digwyddiad byw eleni, ond i lenwi’r bwlch roedd Y Selar yn falch o’r cyfle i gyd-weithio gyda Radio Cymru i gynnal wythnos ddathlu arbennig ar donfeddi’r orsaf Genedlaethol.
Dros yr wythnos ddiwethaf mae enillwyr yr 11 categori gwahanol wedi bod yn cael eu datgelu ar raglenni amrywiol yr orsaf gan ddechrau gyda’r cyhoeddiad mai Mared oedd wedi cipio’r wobr gyntaf sef Seren y Sin ar raglen Aled Hughes fore Llun.
Y diwrnod canlynol cipiodd Mared ei hail wobr yn y categori ‘Artist Unigol Gorau’, gyda chantores ifanc gyffrous arall, Malan, yn ennill y wobr am y ‘Band neu Artist Newydd Gorau’.
Yr enillwyr
Yn ôl yr arfer, darllenwyr Y Selar oedd yn gyfrifol am ddewis enillwyr 9 categori gyda phleidlais gyhoeddus ar agor am bythefnos gyntaf mis Ionawr.
Enillwyr y gwobrau eraill oedd Lewys (Cân Orau), Cofi 19 (Gwaith Celf Gorau) a Bwncath yn cipio coron driphlyg o wobrau sef Fideo Gorau, Record Hir Orau a Band Gorau .
Yn ogystal â’r categorïau yn y bleidlais, roedd dwy wobr wedi’u dyfarnu gan banel Gwobrau’r Selar eleni sef y ‘Wobr Cyfraniad Arbennig’ a ‘Gwobr 2020’.
Y gantores electroneg, sydd wedi cael llwyddiant rhyngwladol ysgubol dros y blynyddoedd diwethaf, Gwenno Saunders, enillodd y Wobr Cyfraniad Arbennig fel cydnabyddiaeth am y modd mae wedi hybu ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes.
Roedd Gwobr 2020 yn wobr newydd i gydnabod amgylchiadau anarferol y flwyddyn a fu, a chyfraniad positif un person mewn ymateb i heriau’r flwyddyn.
Penderfynwyd i gyflwyno’r wobr i’r gantores o Ferthyr Tudful, Eädyth, sydd wedi parhau’n gynhyrchiol trwy gydol y flwyddyn gan gyd-weithio gydag artistiaid eraill ac ysbrydoli llawer iawn o bobl.
Talu teyrnged
Er nad oedd modd cynnal parti mawr i ddathlu eleni, roedd Y Selar o’r farn ei bod yn bwysig bwrw ymlaen gyda’r gwobrau ar ryw ffurf er mwyn talu teyrnged i ddyfalbarhad yr holl artistiaid mewn blwyddyn heriol i bawb.
“Roedd wrth gwrs yn siom i ni fethu dod â phawb ynghyd eleni, ond mae’r bartneriaeth gyda Radio Cymru i gyhoeddi’r enillwyr wedi bod yn llwyddiannus iawn ac wedi llenwi’r bwlch yn sicr” meddai Owain Schiavone o’r Selar.
“Yn ogystal â chyhoeddi’r enillwyr ar raglenni amrywiol, mae Radio Cymru wedi darlledu nifer o sesiynau gwych gan enillwyr a hefyd sawl cyfweliad difyr gyda hwy.
“Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae’n amlwg bod pobl yn gwerthfawrogi gwaith ein hartistiaid cyfoes mewn blwyddyn sydd wedi bod yn arbennig o heriol iddynt.
“Roedd yn flwyddyn wahanol iawn i’r arfer, ond mae hynny wedi agor y drws i nifer o artistiaid fynd ati i wneud pethau ychydig bach yn wahanol, ac mae sawl un wedi llwyddo i wneud eu marc yn sicr.
“Gobeithio’n bod ni wedi llwyddo i dalu rhywfaint o deyrnged i’r artistiaid sydd wedi dyfalbarhau dan amgylchiadau anodd, a dathlu eu llwyddiant yn ystod 2020.”
Rhestr lawn enillwyr Gwobrau’r Selar 2020:
Seren y Sin: Mared Williams
Gwaith Celf (Noddir gan Y Lolfa): Cofi 19
Band neu Artist Newydd (Noddir gan Gorwelion): Malan
Artist Unigol Gorau: Mared
Cân Orau (Noddir gan PRS for Music): ‘Hel Sibrydion’ – Lewys
Gwobr 2020 (Noddir gan Heno): Eädyth
Record Fer: Dim ond Dieithryn – Lisa Pedrick
Cyfraniad Arbennig (Noddir gan Brifysgol y Drindod Dewi-Sant): Gwenno
Fideo Gorau (Noddir gan S4C): Dos yn Dy Flaen – Bwncath
Band Gorau: Bwncath
Record Hir Orau (noddir gan Rownd a Rownd): Bwncath II – Bwncath