Bydd y grŵp newydd o Bontypridd, Y Dail, yn rhyddhau eu hail sengl ddydd Gwener yma, 21 Mai,
‘O’n i’n Meddwl Bod ti’n Mynd i Fod yn Wahanol’ ydy enw’r trac newydd gan y prosiect ifanc cyffrous.
Mae Y Dail yn cael eu harwain gan y cerddor 17 oed talentog o Bentre’r Eglwys ger Pontypridd, Huw Griffiths. Ffurfiodd y prosiect yn wreiddiol yn 2018 ac mae gweddill aelodaeth y grŵp yn ddibynnol ar argaeledd offerynwyr. Wedi dweud hynny, mae un aelod parhaol arall, sef Elen, chwaer Huw.
Rhyddhawyd sengl gyntaf Y Dail, sef ‘Y Tywysog a’r Teigr’, ym mis Hydref 2020. Fe gafodd ymateb ardderchog ar y pryd ac adolygiadau arbennig o ffafriol mewn cylchgronau ac ar flogiau amrywiol. Llwyddodd y trac hefyd i gyrraedd ail safle ‘Siart Amgen 2020 Rhys Mwyn’ ar BBC Radio Cymru.
Arddangos dylanwadau
Wrth sgwrsio gyda’r Selar, eglurodd y cerddor bod y trac newydd, ynghyd ag eraill, wedi eu recordio ar ddiwedd 2020, a bod y sengl yn adlewyrchu ei ddylanwadau cerddorol.
“Mae’r gân yn deillio o sesiynau cyn y Nadolig gyda’r cynhyrchydd Kris Jenkins yn ei stiwdio yn Grangetown” meddai Huw wrth Y Selar.
“Fe wnaethon ni bron cwblhau pedair neu bump cân, ac ‘O’n i’n Meddwl Bod Ti’n Mynd i Fod Yn Wahanol’ oedd yr un agosaf i’r mix terfynol.
“Recordion ni’r trac mewn dim lot o amser, ac efallai ei fod yn arddangos rhai o fy nylanwadau, fel gitar glân Jonathan Richman, compressed piano y White Album, a fuzz y Super Furries.
“Roedd e’n rhwystredig peidio a gallu mynd i’r stiwdio yn ystod y cyfnod clo, ond fe fyddwn yn ail gychwyn y sesiynau ym Mehefin.”
Wrth ryddhau’r sengl newydd, mae Y Dail hefyd wedi datgelu eu bod nhw’n brysur yn recordio rhagor o senglau, yn ogystal ag albwm, gyda’r cynhyrchydd uchel ei barch, Kris Jenkins.
“Gobeithio bydd sengl dau trac Cymraeg a Saesneg yn dod allan yn yr Hydref, ac wedyn albwm yng Ngwanwyn 2022” datgelodd Huw wrth Y Selar.
Dyma’r fideo promo ar gyfer y sengl: