Mae cronfa nawdd Eos wedi cyhoeddi pa artistiaid sydd wedi bod yn llwyddiannus gydag eu ceisiadau am nawdd o’r gronfa eleni.
Mae’r gronfa gerddoriaeth yn cael ei rhedeg gan yr asiantaeth hawliau darlledu, Eos, ac yn cefnogi cynlluniau fydd yn ysbrydoli cerddorion, cyfansoddwyr, artistiaid, hyrwyddwyr, trefnwyr a chynhyrchwyr o bob rhan o Gymru i gyfrannu i’r diwydiant cerdd.
Yn gynharach yn y flwyddyn roedd galwad agored am geisiadau am hyd at £1,000 (hyd at 70% o gyfanswm y costau) i gefnogi gweithgaredd yn ystod y 12 mis nesaf.
Mae’r ceisiadau buddugol eleni’n cynnwys yr artistiaid Calan, Georgia Ruth, Rogue Jones ac Ifan Pritchard o’r band Gwilym. Mae’r label I KA CHING, Stiwdio Acapela a phrosiect Sbardun wedi ennill grant hefyd.
“Mae’n fraint ein bod yn medru cefnogi’r artistiaid, cyfansoddwyr, a’r mudiadau yma ar adeg sy’n parhau i fod mor ansicr” meddai Tomos I. Jones, Gweinyddwr Eos.
“Rydym i gyd yma yn Eos yn edrych ymlaen at weld y prosiectau yma’n cael eu gwireddu yn y dyfodol agos. Hoffwn hefyd ddiolch i’r panel am y gwaith anodd tu hwnt i ddewis yr ymgeiswyr llwyddiannus.”
Dyma grynodeb o’r prosiectau llwyddiannus:
Stiwdio Acapela – Sesiynau cyfansoddi i bobl ifanc gydag Urdd Bro Morgannwg.
Calan – Cyfraniad tuag at gostau hyrwyddo a marchnata taith Calan yn 2022.
Georgia Ruth – Cyfraniad tuag at recordio albwm newydd.
Endaf a Gwallgofiaid / Prosiect Sbardun – Prosiect magu talent ‘Sbardun’ yn canolbwyntio ar gerddoriaeth electroneg. Ariannwyd ar y cyd gyda Cyngor Celfyddydau Cymru.
Ifan Pritchard – Cyfraniad tuag at offer er mwyn trefnu sesiynau ar-lein i gefnogi cyfansoddwyr a cherddorion ifanc.
Recordiau I KA CHING – Cyfraniad tuag at gynhyrchu albwm yn dathlu 10 mlynedd o’r label.
Rogue Jones – Cyfraniad tuag at gynhyrchu albwm newydd.