Mae dau o artistiaid bywiocaf y flwyddyn ddiwethaf wedi dod ynghyd i recordio a rhyddhau sengl newydd.
Bu i’r grŵp Ystyr, a’r gantores Teleri, ryddhau cynnyrch yn rheolaidd yn ystod 2020 gan fanteisio ar y cyfle i gael sylw i’w cerddoriaeth yn ystod y cyfnod clo. Nawr mae’r ddau brosiect wedi troi at gydweithio gyda’i gilydd i ryddhau’r sengl ‘Adferiad’ ar ddydd Gwener 28 Mai.
Nid dyma’r tro cyntaf i Ystyr ffurfio partneriaeth gerddorol eleni – bu iddynt ryddhau sengl ar y cyd â Mr Phormula, ‘Noson Arall yn y Ffair’, nôl ym mis Mawrth.
Ystyr ydy’r prosiect sy’n cyfuno doniau gitarydd y grŵp Plant Duw, Rhys Martin; ei gefnder, Owain Brady; Rhodri Owen, gynt o Cyrion a Yucatan; a’r artist celf gweledol, Pete Cass.
Teleri ydy’r artist aml-gyfryngol electronig o Feirionnydd ddaeth i’r amlwg yn ystod 2020 gyda chyfres o senglau a fideos trawiadol.
Mae’r gân newydd yn mynegi poen y byd dan law dyn, a’r canlyniad arswydus o ganlyniad i’w gamddefnydd o’r blaned, sef y pandemig. Serch hyn, mae gobaith yn goleuo yn araf drwy’r trac nes ffrwydro i orfoledd gan ddychmygu bywyd mwy perffaith yn byw law yn llaw gyda natur.
Mae llais a geiriau Teleri yn gweddu cerddoriaeth Ystyr, sy’n dal i aeddfedu, drac wrth drac. Gyda’r sengl newydd ceir cymysg angerddol o gerddoriaeth werin, electro, jazz seicadelig, ac R&B. Trac sy’n gefndir i’r adferiad o Oes y Pandemig.