Mae’r grŵp a ddaeth i amlygrwydd yn ystod 2020 gyda chyfres o senglau, Ystyr, wedi cyd-wethio â’r meistr rap Cymraeg, Mr Phormula ar gyfer eu trac diweddaraf.
‘Noson Arall yn y Ffair’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan Ystyr, ac mae allan ers 26 Mawrth.
Ystyr ydy’r prosiect newydd sy’n cyfuno doniau gitarydd y grŵp Plant Duw, Rhys Martin; ei gefnder, Owain Brady; Rhodri Owen, gynt o Cyrion a Yucatan; a’r artist celf gweledol, Pete Cass.
Rhyddhawyd eu sengl gyntaf, ‘Disgwyl am yr Haf’, ar Bandcamp fis Mai diwethaf ac ers hynny maent wedi rhyddhau cyfres o senglau amrywiol sydd wedi dal y sylw. Mae’r grŵp yn plethu cerddoriaeth electronig gyda dylanwadau hip-hop a gwerin i greu sŵn gwreiddiol ac unigryw.
Mae eu sengl ddiweddaraf yn gydweithrediad cyffrous gyda rapiwr mwyaf blaenllaw Cymru, Mr Phormula ac yn cyfuno egni y curiad, llif y geiriau, naws y gerddoriaeth, breuddwydion y gorffennol a gobaith y dyfodol.
Yn ôl y grŵp, mae ‘Noson Arall yn y Ffair’ yn gân i nodi atgofion melys nosweithiau hudol yn dawnsio,wrth gynllunio at y newidiadau sy’n rhaid eu gwneud yn ein cymdeithas.
Mae’n debyg fod y trac ar y gweill ers deng mlynedd, a bod Owain wedi dechrau gweithio arni ers clywed y curiad gwreiddiol wrth iddo deithio yn Ne Affrica ar y pryd.
Mae’r sengl allan yn ddigidol ar safle Bandcamp Ystyr.