Mae Zabrinski wedi rhyddhau sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 12 Chwefror.
‘Sinkhole Hotspot’ ydy enw’r trac newydd ac yn ôl y grŵp mae’r gân yn trafod stori wir – pan oedd aelodau Zabrinski’n byw gyda’i gilydd yn 2007, llyncwyd y band gan sinkhole anferthol yn Nhreganna, Caerdydd a dim ond yn ddiweddar maent wedi ymddangos nôl ar wyneb y ddaear ar ôl dringo allan o’r twll.
Mae’r stori ffuglen yma’n cynrychioli hanes y diweddar y band i raddau gan eu bod wedi bod yn segur ers amser maith cyn rhyddhau’r sengl ‘Amalgamation of Evils’ yn 2018 – ‘Sinkhole Hotspot’ ydy ail sengl y grŵp ers yr albwm ‘Ill Gotten Game’ a ryddhawyd reit nôl yn 2005.
Mae’r caneuon wedi eu hysgrifennu gan Zabrinski, gyda R. Seiliog yn gyfrifol am beth o’r gwaith cymysgu, a Kris Jenkins am y gweddill.
Gallwch brynu’r trac ar safle Bandcamp Zabrinski.