Rhag ofn i chi golli’r newyddion wythnos diwethaf, Tecwyn Ifan oedd enillydd Gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar eleni.
Cyhoeddwyd y newyddion ar ddiwedd sgwrs rhwng y cerddor ac Aled Hughes ar raglen BBC Radio Cymru Aled fore dydd Mercher. Roedd ymateb Tecwyn yn wych, ac yn cadarnhau’n union pam fod y gŵr diymhongar yma’n llawn haeddu’r gydnabyddiaeth.
Mae pawb yn gwybod fod Tecs yn gallu ysgrifennu tiwn. Dros y degawdau mae wedi bod yn gyfrifol am gyfansoddi rhai o anthemau gorau’r Gymraeg. Mae dewis ei gân orau bron yn amhosib…felly dyna benderfynu gosod y dasg i chi yn lle gyda phôl piniwn!
Un peth sy’n eich taro chi am ganeuon Tecwyn, a nifer o’r rhai isod, ydy gymaint o bobl sydd wedi gwneud cyfyr o un neu fwy ohonyn nhw – rhai yn gorau, eraill yn unawdwyr neu bartïon a nifer o artistiaid cyfoes hefyd. Mae hynny’n aml yn arwydd o gân wirioneddol dda.
Dyma restr 10 Uchaf Caneuon Tecwyn Ifan:
10. Wedi Blino
Rhyddhawyd yn wreiddiol ar ei ail albwm, Dof yn Ôl, ym 1978. Roedd hwn yn albwm cysyniadol o fath gyda nifer o’r caneuon yn ymdrin ag Amos y proffwyd.
9. Nefoedd Fach i Mi
Cân o’i albwm Stesion Strata ym 1990 – baled hyfryd.
8. Stesion Strata
Prif drac yr albwm o’r un enw a chân serch i ardal Pontrhydfendigaid lle bu Tecwyn a’i deulu ifanc yn byw am rai blynyddoedd yn y 1980au. Ma’r newid cywair yn hon yn epig. Mae hefyd yn esiampl dda o un o’r caneuon sydd wedi’i chanu gan gorau, unawdwyr a phartïon mewn eisteddfodau a nosweithiau llawen lu gan gynnwys y Tri Bariton!
7. Gwaed ar yr Eira Gwyn
Mae hon ar ei albwm cyntaf, Y Dref Wen, ac er bod honno’n cael ei gweld yn aml fel record genedlaetholgar Gymreig, dyma drac sy’n adlewyrchu ymwybyddiaeth Tecwyn Ifan o hanes a materion rhyngwladol. Cân sy’n cofio am y ‘Wounded Knee Massacre’ yn America yn Rhagfyr 1890 pan laddwyd 300 o bobl llwyth cynhenid y Lakota gan filwyr byddin yr UDA. Mae fersiwn wych o hon gan Lisa Jên sy’n werth ei chlywed, yn ogystal ag un unigryw ardderchog gan Pat Datblygu, Haydon Y Pencadlys a Dylan Race Horses / Ynys. Mae ’na hefyd fersiwn ohoni gan Alun Tan Lan ar ei drydydd albwm, Yr Aflonydd.
6. Sarita
Daw hon o’r albwm o’r un enw a ryddhawyd y 1997, sydd unwaith eto’n record sy’n llawn myfyrdodau am y byd cyfoes, rhyngwladol. Mae ’na fersiwn fach da o hon gan Meinir Gwilym hefyd.
5. Stafell Cynddylan
Ail drac albwm unigol cyntaf Tecwyn, Y Dref Wen, a ryddhawyd ym 1977. Mae hon yn gyfeiriad at, ac yn addasiad o eiriau, y gerdd enwog ‘Ystafell Cynddylan’ o gyfres englynion Canu Heledd o rywdro tua cyfnod y blynyddoedd 800-900 – bydd lot ohonoch sydd wedi gwneud lefel ‘A’ Cymraeg wedi clywed am rhain.
4. Ofergoelion
Un o ganeuon mwyaf upbeat a bywiog Tecs sydd wedi parhau’n ffefryn ar y tonfeddi dros y blynyddoedd. Ymddangosodd hon yn wreiddiol ar yr albwm 0 1983, Herio’r Oriau Du. Mae ’na sawl artist wedi gwneud cyfyr o hon gan gynnwys Dan Lloyd ac yn ddiweddar iawn fersiwn wych gan Ciwb, gydag Iwan Fôn yn canu.
3. Ysbryd Rebecca
Un arall o diwns gwych yr albwm Stesion Strata, ond yn wahanol i deitl-drac yr albwm, cân sy’n cyfeirio’n benodol at yr ardal roedd wedi symud iddi ar ôl byw yn Bont, sef Efailwen yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r gân wrth gwrs yn trafod gwrthryfel Merched Beca a daniwyd yn yr Efailwen ym 1839 pan ymosododd dynion wedi gwisgo fel merched ar dollbyrth fel protest yn erbyn y trethi roedd rhaid iddynt eu talu.
Dyma un arall sydd wedi ysgogi ar ambell gyfer gan gynnwys fersiwn diweddar Lewys Wyn.
2. Y Dref Wen
Mae’n siŵr mai hon ydy cân enwocaf Tecwyn, ac mae’n rhannu enw gyda’i albwm cyntaf wrth gwrs. Yn wir, hon oedd cân agoriadol yr albwm, ac i bawb ar y pryd dyma’r cyntaf fydden nhw wedi’i glywed ar record gan Tecwyn Ifan fel artist unigol! Mae’r gân yn aml yn cael ei chysylltu’n agos â mudiad Adfer, oedd yn weithgar iawn yn y 1970au, ac mae’n siŵr bod adlais o syniadaeth y mudiad yma, ond y prif ddylanwad unwaith eto, fel gyda ‘Stafell Gynddylan’ oedd cerddi Canu Heledd
1. Bytholwyrdd
Efallai mai ‘Y Dref Wen’ ydy cân enwocaf Tecwyn, ond mae’n anodd dadlau gyda’r trac ddaeth i frig ein pôl piniwn – mae ‘Bytholwyrdd’ yn glasur pur. Rhyddhawyd hon yn wreiddiol ar yr albwm Edrych i’r Gorwel ym 1981. Erbyn hynny roedd y cerddor wedi dod yn dad am y tro cyntaf, a dyna’r dylanwad mawr ar y trac gan mai cân i’w blentyn cyntaf anedig ydy hon. Ond, mae’n llawer mwy na baled rhamantus – mae’n glasur o gan pop punchy, dim nonsens…dim ond dwy funud o hyd ydy hi, does dim gwastaff o gwbl – mae’n rhagorol.
“…a thrwy hyn oll boed i ti fod yn fytholwyrdd a glân” – priodol iawn mai hon sydd ar frig y rhestr oherwydd mae’n crynhoi Tecwyn Ifan ei hun – go brin bod unrhyw artist Cymraeg sy’n fwy haeddiannol o’r disgrifiad ‘bytholwyrdd’.
Gallwch wrando nôl ar gyfweliad Aled Hughes gyda Tecwyn Ifan ar BBC Radio Cymru, gyda’r cyflwynydd yn datgelu ar ddiwedd y sgwrs mai Tecs ydy enillydd y Wobr Cyfraniad Arbennig eleni.