Roedd Cerys Hafana yn un o’r prif artistiaid o Gymru fu’n diddanu ym mwrlwm gwledydd Celtaidd y Festival Interceltique de Lorient yn Llydaw ddechrau mis Awst.
Yn ogystal, mae gan y cerddor o Fachynlleth ail albwm, Edyf, i’w ryddhau’n fuan. Er yn dal i fod yn ifanc, mae eisoes wedi creu cryn argraff ar y gofod gwerin yng Nghymru.
Gruffudd ab Owain fu’n sgwrsio â hi ar ran Y Selar yn ddiweddar, gan ofyn yn gyntaf am bwysigrwydd yr ŵyl yn Lorient i gerddorion gwerin.
“Dwi’n meddwl ei bod hi’n rili bwysig i gerddorion gwerin achos mae’n rhoi cynulleidfa ’ti jyst ddim yn ca’l yn unrhyw le arall o ran pa mor frwdfrydig ma’n nhw i wylio cerddoriaeth gwerin” meddai Cerys.
“Dwi’n deud yn itha’ aml ma’ dyma’r unig ŵyl yn y byd lle ti’n teimlo’n rock star yn ’neud cerddoriaeth gwerin. Ma’r raddfa a’r niferoedd o bobl jyst yn anhygoel a pa mor werthfawrogol ma’n nhw o be’ ma’ cerddorion gwerin yn ’neud.”
Heriau gŵyl draddodiadol
Yn ei hysgrif ar gyfer y gyfrol ‘Welsh [Plural]’, bu Cerys yn trafod pa mor gynhwysol ydy’r cysyniad o’r ‘traddodiadol’, ac mae’n dweud fod safbwyntiau’r rhan helaeth o’r 900,000 o bobl sy’n mynychu’r ŵyl yn dal i fod yn gul.
“O’n i’n teimlo bod lot o bobl sy’n mynd i’r ŵyl efo syniad sbesiffig o be’ ma’n nhw isio” meddai’r cerddor dawnus.
“Dros yr hanner can mlynedd o’r ŵyl ma’n nhw wedi datblygu syniadau o be’ ma’ pob gwlad yn ’neud a dyna ma’n nhw eisiau gweld. Efo Cymru, ma hwna’n corau meibion a’r delyn.
“Ro’n i’n teimlo tamed bach eu bod nhw ddim cweit yn siŵr be’ o’n i’n ’neud gyda’r delyn. Ma’ grŵp o bobl mewn gwisg draddodiadol yn canu emynau neu ddawnsio yn ffitio mewn yn well i be’ ma’n nhw’n disgwyl na be dwi’n ’neud.
“O’dd ’na cwpl o bethe ’nath ddigwydd yn yr ŵyl oedd yn teimlo tipyn bach yn hen ffasiwn; o’n i’n rhan o gyngerdd lle o’dd ’na 15 dyn a 5 merch ar y llwyfan, ac o’dd hwne tipyn bach yn rhyfedd ac yn draddodiadol mewn ffordd wahanol. Ma’n rhwystredig bod hyne dal yn digwydd.”
Er efallai fod yr ŵyl, a’r traddodiad gwerin yn ehangach efallai, yn parhau i sefyll yn yr unfan, dydy hi ddim yn gadael i hynny ei rhwystro rhag gwthio ffiniau.
“Dwi ddim yn meindio g’neud pethe ma’ rhai pobl ddim yn mynd i ddeall; dwi’m yn meindio bod pobl bach yn perplexed,” meddai.
Ail albwm
Mae cyfnod cyffrous ar y gweill iddi hefyd wrth i’w hail albwm gael ei ryddhau i ddilyn yr albwm cyntaf, Cwmwl, gafodd ei ryddhau yn 2020.
Dywed ei fod yn ddatblygiad o’r albwm cyntaf.
“Ma’ hi’n eitha tebyg yn y ffaith mai lot o gerddoriaeth telyn deires yw hi ac [mae’n] cymryd deunydd gwerinol a thraddodiadol a’i throi hi mewn i rywbeth mwy cyfoes” eglura Cerys.
“Mae’n wahanol i’r un cyntaf achos mae’n teimlo lot mwy fel cyfanwaith; ’nes i eistedd ’lawr a creu yn gwybod ’mod i’n mynd i ‘neud albwm lle o’dd yr un cynta’ yn gasgliad o bopeth o’dd gena’i.”
Ceir pwyslais ar roi bywyd newydd i hen ddeunydd ar yr albwm hefyd.
“Ma’ lot o’r deunydd gwreiddiol ‘di dod o’r Llyfrgell Genedlaethol [o’u] archif ar-lein o hen faledi ac emynau. ‘Nes i dreulio lot o’r flwyddyn d’wetha yn mynd trwy hwnna ac yn edrych am emynau yn benodol o’dd ‘di marw allan yn llwyr.”
Wrth sôn am ddylanwadau’r albwm, mae effaith nodweddion unigryw ei hofferyn a chydweithio ag eraill yn drwm arni.
“Ma’ [yr albwm] hefo cerddorion eraill arni hi ac o’dd hwnna’n brofiad newydd i fi; dwi ’rioed ’di gofyn i gerddorion er’ill chwarae ‘ngherddoriaeth i, dwi jyst yn chwarae cerddoriaeth pobl erill, ac o’dd hwnna’n cŵl.
“Dwi’n chwarae’r delyn deires ac ma’ hynna’n rhan bwysig o be’ dwi’n neud achos mae ganddi lot o nodweddion sydd jyst ddim yn bodoli ar fathau gwahanol o delynau, yn enwedig y ddwy res allanol achos ma’ gen ti ddau o bob nodyn.
“Ma hynna di dylanwadu lot ar fy arddull i achos dwi’n meddwl bod o’n agor sain fwy cyfoes hefo’r effeithiau ti’n gallu creu efo’r [ffaith bod] dau o bob nodyn.
“Pan o’n i’n dechre’n y brifysgol cwpl o flynydde’n ôl o’n i’n chware mewn ensemble o chwech allweddell ac o’n ni’n chwarae cerddoriaeth minimalist a post-minimalist, a falle bod yr effaith yna ddim yn swnio’n amlwg iawn ar yr albwm ond ‘swn i’n d’eud bod chwarae’r math yna o gerddoriaeth wedi cael effaith fawr arna’i.”
Mae modd rhagarchebu’r albwm newydd ‘Edyf’, gaiff ei ryddhau ar y 15 Medi, ar safle Bandcamp Cerys Hafana.
Bydd modd gweld Cerys Hafana’n perfformio’n fyw mewn sawl lle dros yr wythnosau nesaf.
Rhestr gigs Cerys Hafana
16-18 Medi: Camp Good Life, Sir y Fflint
28 Medi: Porter’s, Caerdydd
7fed o Hydref: Mawr y Rhai Bychain, Neuadd Ogwen, Bethesda
13 Hydref: The Bank Vault, Aberystwyth
29 Hydref: Llais, Canolfan y Mileniwm, Caerdydd (yn cefnogi Midlake)
Dyma ‘Comed 1858’, trac agoriadaol Edyf:
Lluniau: Heledd Wyn Hardy