Wedi ei gyfareddu gan y perfformiad, dyma adolygiad arbennig gan Nic Ros o gig diweddar Kizzy Crawford yng Nghorris
Pwy: Kizzy Crawford
Pryd: Nos Sadwrn 3 Rhagfyr
Lle: Gwesty a Byncws Braich Goch, Corris, nos Sadwrn 3ydd o Ragfyr 2022
Rhyddid i Bawb
Mae’r Nadolig eleni yn heriol i lawer, ond dyma gymuned fechan a’i groesawodd yn rhyfeddol o gynnar gyda noson anhygoel o gerddoriaeth fyw.
I’r cymharol ychydig a ŵyr am fodolaeth y digwyddiad, dyma gyfle unigryw yn yr ardal i glywed un o brif artistiaid cerddorol Cymru. A thu hwnt.
Dyma fenyw ifanc â llwythi o ddylanwadau ac arddulliau eisoes: bron cymaint ag o sgiliau sy’n perthyn iddi, ac o offerynnau mae hi’n medru swyno seiniau ganddynt. Wedi ein gwahodd i’w Chaer o Feddyliau yr ydym, a mae’n le hyfryd i’ch hudo ato.
Yn 2023 bydd ei record fer Temporary Zone yn ddeg oed, ond mae Kizzy yma, o hyd ac yn parhau i ddatblygu, gan rapio ddwywaith ar y noson. Ceir cyfuniad o’r hen a’r newydd felly, gan ein dwyn yn ôl i’w chychwyn gyda’r gân ‘Caer o Feddyliau’, uchafbwynt yr EP cyntaf yna, caneuon albyms o The Way I Dream o 2019 a Rhydd o 2022, ac ambell un newydd sbon.
Nid oes pall ar ei gallu na’i huchelgais. Ar ei record hir Rhydd o eleni, gwelir ystod eang o offerynnau ganddi, a hi’n cynhyrchu’r cyfan.
Ar y llwyfan bach mae llwyth o bosibiliadau, a ddefnyddir gan yr unigolyn yn ei ganol. Hyd yn oed wedi iddi adael peth offerynnau ar ôl, e.e. ffidil, mae yma sawl gitâr, bâs acwstig, pedalau ac obo trydan. Ar ei gwefan ac YouTube cewch weld ei ffordd o strwythuro’r caneuon, gan ddechrau gyda lŵp o ddrymiau, bas acwstig neu gymal lleisiol. Mae’n broses hudolus, ac felly mae ei gwylio’n gwneud, yn ymddangosiadol ymlaciedig wrth osod haenau.
Ond yng nghanol y cyfan mae llais clir fel cloch Kizzy, sydd hyd yn oed yn well yn fyw, wrth droi ei llwnc at faledi (‘Sgleinio’), pop, ffync, r’n’b (‘Llwch Angen ei Glirio’), jas, a’i henaid i’w chlywed. Yn fyw, nid oes modd blocio ei llais, ac mae’n rhagori ar y recordiau. Rhwng y caneuon mae’n serchus ac yn gyfeillgar ei chyflwyniadau.
Helbulon cariad, chwedloniaeth a hunaniaeth Cymru yw ei phrif themâu ers ei dechrau (‘The Starling’ er enghraifft am ddrudwy Branwen) ac mae’n parhau i wneud hyn, er i’w mathau o gerddoriaeth ehangu.
Y gynulleidfa yma wedi ei swyno’n gyfan gwbl. Yn eistedd, neu’n sefyll wrth y bar, mae’r traed yn tapio a’r genau’n nodio, y llygaid yn aml yn cau ac yn ailagor yn ei chaer.
Di-Gymraeg mae’r mwyafrif yma, a Kizzy’n cyflwyno a chanu yn y ddwy iaith, gydag ychydig o Bortiwgaeg yn ‘Enquanto Há Vida, Há Esperança’ yn uchafbwynt amlwg arall, lle mae’r gerddoriaeth yn denu dawnsio posib, ac un o’r sawl a weddai gofod llawr mwy. Gyda chaneuon fel hon, a ‘Fy Ngolau’, mae ei hapêl i rai iau yn amlycach, ac mae’r rapio’n awgrymu dyfodol lle y gall fynnu dawnsio torfol.
Wrth ddatblygu ei rapio, dyma Little Simz y dyfodol, a hi yng Nghaerdydd oedd gig gorau llynedd i mi. Heno, mae’r mwyafrif llethol yn hŷn o lawer na Kizzy ei hun. Erbyn y diwedd mae’r gofod yn llawn, ac mae’r diffyg marchnata yn drueni, er yn ddealladwy. Llwyddodd ffrind i grybwyll dim ond un poster a welwyd yn lleol.
Dau o Golombiaid, Javier Sánchez-Rodríguez a María de la Pava, sy’n bennaf gyfrifol am redeg byncws a thafarn Braich Goch, Corris, o dan Ymddiriedolaeth Anne Matthews, gyda’i ffocws deublyg ar y lleol a’r byd, a’r clymau rhwng y ddau’n closio o hyd, fel y maent yng nghaneuon y gantores sydd yma heno. Maen nhw’n gefnogol y tu hwnt i ffoaduriaid o bobman, ac yn Gristnogol neu beidio, maen nhw’n cynnig gobaith y Nadolig llwm yma. I bawb.
Nic Ros
Eisiau adolygu gig neu record i’r Selar? Cysylltwch â ni – yselar@live.co.uk