Bu i’r cerddor o Sir Gâr, Cate Le Bon, ryddhau ei halbwm diweddaraf ddydd Gwener diwethaf, 4 Chwefror, gan esgor ar lu o adolygiadau yn y wasg gerddoriaeth.
‘Pompeii’ ydy enw albwm newydd Cate Le Bon, ac ei chweched albwm stiwdio hyd yma.
Mae’n dilyn ei halbwm ardderchog diwethaf, ‘Reward’, a enwebwyd ar gyfer Gwobr Mercury yn 2019.
Mae’r albwm allan ar label Mexican Summer ac yn cael ei ddisgrifio fel art pop sydd hefyd yn dwyn dylanwad o bop dinesig Siapaneaidd (Japanese city pop).
Sylw’r wasg gerddoriaeth
Mae record hir ddiweddaraf y ferch o Benboyr wedi denu llwyth o sylw gan y wasg gerddoriaeth Brydeinig a rhyngwladol, gydag adolygiadau da ar nifer o wefannau cerddoriaeth amlwg.
Mae hyn yn cynnwys adolygiadau canmoliaethus yn yr NME, yn The Guardian, The Washington Post, DIY Magazine ac yn The Irish Times i enwi dim ond rhai. Mae hefyd wedi cael sylw gan nifer o’r gwefannau cerddoriaeth amlycaf fel Pitchfork a The Quietus.
Hefyd fe ymddangosodd cyfweliad difyr gyda hi yn The Guardian am yr albwm, a ysgrifennodd yn gyfan gwbl ar ben ei hun yn ystod y cyfnod clo.
Cyd-gynhychwyd y record 9 trac ganddi hi a Samur Khouja ac mae Cate yn chwarae pob offeryn a glywir ar wahân i’r drymiau.
Mae’r sylw yn y wasg yn cynnwys adolygiad 5 seren yn The Independent ac adolygiadau 4 seren gan yr NME a The Scotsman.
Cafodd ‘Pompeii’ hefyd sylw fel ‘Albwm y Dydd’ gan Bandcamp wythnos diwethaf gydag Ellie Carroll yn dweud hyn am y record:
“Le Bon’s uncompromising artistic streak, in play long before Pompeii, is precisely what makes this album’s distinct and unshakable artistic confidence so remarkable. If Reward was Le Bon’s ascent to the height of her powers, then Pompeii is her setting up camp at the summit.”