Adwaith yn cipio’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig am yr eilwaith

Enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni ydy Adwaith gyda’u hail albwm, Bato Mato. 

Datgelwyd y newyddion fel rhan o seremoni’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru nos Fercher diwethaf, 26 Hydref. 

Wrth gipio’r wobr eleni, mae’r triawd o Gaerfyrddin wedi creu hanes gan mai nhw ydy’r band cyntaf i ennill y wobr am yr eilwaith. Eu halbwm cyntaf, Melyn, oedd yn fuddugol yn 2019

Rhyddhawyd Bato Mato ar label Recordiau Libertino ddechrau mis Gorffennaf eleni. Roedd arwydd clir o’r hyn oedd i ddod ar yr albwm wrth ryddhau’r senglau gwych ‘ETO’ ac ‘Wedi Blino’  yn gynharach yn y flwyddyn. 

Taith i gyrion rhewllyd Rwsia ar y Trans-Siberian Express, oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer yr albwm. Bato Mato oedd enw eu tywysydd wrth iddynt deithio i gyfeiriad dinas rynllyd Ulan-Ude.

Mae atgofion y band o deithio trwy Rwsia wedi treiddio i wead yr albwm newydd gyda thraciau pwerus diwydiannol fel ‘Yn Y Sŵn’ ac ‘Anialwch’ yn tanio atgofion o pistons di-baid y trên cyflym aeth â nhw drwy’r wlad. 

Roedd yr ymateb i’r albwm yn ffafriol iawn wrth i’r band gigio’n rheolaidd dros yr haf gan gynnwys mewn sioeau cofiadwy yn Gig y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron ac yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd.

Wrth ymateb i gipio’r teitl unwaith eto, dywedodd Adwaith eu bod yn dal i fod mewn sioc. 

“Ni’n ddiolchgar iawn i ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig unwaith eto” meddai’r band wrth Y Selar

‘O’n ni ddim yn disgwyl o gwbl a ni’n teimlo’n falch iawn bod ni’n gallu bod yn rhan o’r symudiad yma o gerddoriaeth Cymraeg anhygoel.”