Adwaith yn rhyddhau ‘Sudd’ fel sengl

Ar ddiwedd haf prysur i’r triawd o Gaerfyrddin, mae Adwaith wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ar label Recordiau Libertino. 

‘Sudd’ ydy’r trac diweddaraf o ail albwm y band, ‘Bato Mato’, sydd wedi’i ryddhau fel sengl ar ôl iddi ddod yn ffefryn ymhlith y dorf yn ystod sioeau byw helaeth Adwaith dros yr haf. 

Mae’n dilyn y senglau blaenorol o’r albwm sydd wedi’u rhyddhau yn gynharach yn y flwyddyn, ‘Eto’ ym mis Chwefror ac ‘Wedi Blino’ ym mis Mai, cyn i’r albwm gael ei gyhoeddi ar 1 Gorffennaf. 

“Cân llawn hwyl a sbri”

Mae ‘Sudd’, yn ôl Libertino, yn cyfleu afieithusrwydd a diofalusrwydd ysgrifennu Adwaith, gan chwarae gyda lliwiau cynradd i greu cân sy’n ymdrochi mewn pelydrau haul.

“Mae Sudd yn ymwneud â meithrin perthnasoedd a’u gwylio’n tyfu” eglura’r band am y trac.

“Roedden ni eisiau sgwennu cân llawn hwyl a sbri.” 

Y sengl hon yw’r deunydd cyntaf i gael ei ryddhau ers eu prif set yng ngŵyl y Dyn Gwyrdd, perfformiad lle’r oedd ‘Sudd’ yn uchafbwynt, ac a gafodd ei ganmol gan ohebydd yr NME oedd gwylio:

“…..ni fyddai’n anghywir credu y bydd eu perfformiad angerddol yn cael ei gydnabod yn fuan fel trobwynt i gerddoriaeth Gymraeg”.

Mae cyfweliad rhwng Lois Gwenllian ac aelodau Adwaith am eu halbwm diweddaraf yn rhifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar sydd allan ers mis Awst.