Mae cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B a BBC Radio Cymru eleni wedi agor.
Mae ffurflen gofrestru ar-lein i unrhyw artistiaid neu fandiau sy’n awyddus i gystadlu, gyda chyfle i ennill £1000 a slot gwerthfawr ar lwyfan Maes B ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron fis Awst.
Bu’n rhaid addasu’r gystadleuaeth llynedd wrth gwrs a’i chynnal fel rhan o’r Eisteddfod Amgen, ond bydd rownd derfynol Brwydr y Bandiau’n yn ôl ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
skylrk. oedd enillydd y gystadleuaeth llynedd, ac mae cyfle i artistiaid sy’n cystadlu ymuno ag efo ynghyd ag enwau fel Alffa, Mari Mathias, SYBS a Chroma ar y rhestr o enillwyr.
Y dyddiad cau ar gyfer cystadlu ydy 1 Mai, ac mae’r ffurflen gais ar wefan yr Eisteddfod.
Mae angen i unrhyw un sy’n cystadlu fod rhwng 16 a 25 oed, ond fel arall does dim cyfyngiadau ac mae croeso i artistiaid a bandiau o unrhyw genre cerddorol, ond iddynt fod yn canu yn y Gymraeg wrth gwrs.
Ar gyfer y rownd gyntaf, mae angen recordio demo 15 munud sy’n cynnwys rhwng 2 a 4 cân wreiddiol Gymraeg a bydd y beirniaid yn penderfynu pwy sy’n mynd ymlaen i Rownd 2.
Bydd 4 band neu artist yn yr ail rownd, a’r cwbl yn recordio set 20 munud i’w ddarlledu ar Radio Cymru ymlaen llaw, gan hefyd berfformio’n fyw ar lwyfan perfformio maes yr Eisteddfod yn Nhregaron ar ddydd Mercher 3 Awst.
Dyma’r perfformiad gipiodd y teitl i skylrk. llynedd.