Agor pleidlais Gwobrau’r Selar

Mae’r bleidlais gyhoeddus i ddewis enillwyr Gwobrau’r Selar eleni ar agor nawr.

Ers nos Lun 10 Ionawr mae modd i unrhyw un fwrw pleidlais dros 9 o’r categorïau sy’n cynnwys ‘Band Gorau’, ‘Record Hir Orau’, ‘Seren y Sin’ a ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’.

Bydd y bleidlais yn cau ar nos Wener 21 Ionawr.   

Cyhoeddi enillwyr ar Radio Cymru

Yn anffodus, oherwydd sefyllfa fregus y pandemig ar hyn o bryd, mae’r Selar wedi penderfynu peidio cynnal digwyddiad byw unwaith eto eleni.

Bydd yr enillwyr felly’n cael eu cyhoeddi mewn partneriaeth â BBC Radio Cymru dros wythnos 14-18 Chwefror, gan efelychu’r cyhoeddiadau llynedd. 

Mae’r cyhoedd eisoes wedi cael cyfle i enwebu ar gyfer y categorïau amrywiol ychydig cyn y Nadolig, ac mae panel Gwobrau’r Selar sy’n cynnwys cyfranwyr y cylchgrawn a gwefan gerddoriaeth, wedi cwtogi’r enwebiadau i ffurfio rhestrau hir ar gyfer y bleidlais.

Nawr, mae’r penderfyniad terfynol yn ôl yn nwylo’r cyhoedd. 

Bydd enillwyr 9 o’r categorïau’n cael eu dewis gan y cyhoedd trwy’r bleidlais, gyda dwy wobr arall, sef y ‘Wobr Cyfraniad Arbennig’ a ‘Gwobr 2021’, yn cael eu dyfarnu gan dîm golygyddol Y Selar. 

Cliciwch isod i fwrw eich pleidlais!

 

Pleidleisia dros Wobrau’r Selar 2021