Ail albwm Plu allan yn ddigidol

Mae albwm diweddaraf y triawd brawd a chwaer, Plu, bellach ar gael ar y llwyfannau digidol arferol.

‘Tri’ ydy enw’r albwm ac mae allan yn swyddogol ers 29 Ebrill. Er hynny, dim ond ar ffurf CD mewn siopau lleol ac yn gigs y band mae’r albwm wedi bod ar gael i’w brynu cyn hyn.  

‘Tri’ yw’r cyfanwaith gwreiddiol cyntaf i’r triawd o Fethel, Caernarfon ryddhau ers eu halbwm diwethaf, ‘Tir a Golau’, yn 2015. 

Cafodd y casgliad ei recordio dros gyfnod o ddwy flynedd yn Stiwdio Sain, Llandwrog gyda’r cynhyrchydd Aled Wyn Hughes. 

Diolch i grant Cronfa Nawdd Eos ceir ymddangosiadau gan y cerddorion Carwyn Williams, Dafydd Owain ac Edwin Humphreys yn ychwanegu offeryniaeth ehangach i sain acwstig Plu. 

Ceir cyfuniad o ganeuon â naws Americana, rhai amgen ag atmosfferig, â tiwns gwerin-bop llawn harmonïau cymhleth sy’n perthyn i sain Plu. 

Bu i’r grŵp gynnal cyfres o gigs lansio’r albwm yn ystod misoedd Mai a Mehefin gan ymweld â lleoliadau yng Nghaernarfon, Y Bala, Crymych, Aberystwyth a Chaerdydd. 

Dyma drac agoriado yr albwm, ‘Dinistrio Ni’: