Ail-lansio lleoliad gigs Tŷ Tawe

Mae lleoliad gigs amlwg Tŷ Tawe yn Abertawe wedi cael ei ‘ail lansio’ wythnos diwethaf gyda chyfres o gigs yn dathlu cerddoriaeth gyfoes iaith Gymraeg.

Ty Tawe (cyn adnewyddu 2021)
Tŷ Tawe cyn y gwaith adnewyddu diweddar

Agorwyd y ganolfan yn wreiddiol yn 1987, ac mae Canolfan Cymraeg Tŷ Tawe yn gartref i siop lyfrau, caffi, ystafelloedd cyfarfod a swyddfeydd, yn ogystal â lleoliad perfformio hyblyg sydd wedi cynnal llwyth o gigs dros y blynyddoedd. 

Yn dilyn cyfres o gigs acwstig yn y bar, ail-agorodd y brif neuadd ym mis Hydref 2021 wedi gwaith adnewyddu sylweddol ar yr adeilad.

Mae’r gwaith diweddaraf sydd newydd ei gwblhau gyda chefnogaeth Cronfa Cyfalaf Cerddoriaeth Cymru Greadigol wedi ychwanegu offer sain a golau newydd, gan drawsnewid y neuadd yn lleoliad cyfoes ar gyfer theatr, comedi, llenyddiaeth, a cherddoriaeth o bob genre.

Sesiwn Soundcheck

Dechreuodd y gyfres yma o gigs i ddathlu’r lleoliad ar ei newydd wedd nos Wener diwethaf 29 Ebrill gyda pherfformiadau gan MR (Mark Roberts, cyd-sylfaenydd y bandiau eiconig Y Cyrff a Catatonia) a SYBS, y band ôl-bync cyffrous o Gaerdydd

Y noson ganlynol, 30 Ebrill roedd yr artist pop electronig Ani Glass yn headlinio gyda chefnogaeth gan Eädyth a Bitw. Roedd gig nos Sadwrn hefyd yn cynnwys “Sesiwn Soundcheck” mewn cydweithrediad â’r Gymuned Lleoliadau Annibynnol lle’r oedd grŵp o bobl ifanc yn cael eu croesawu i’r lleoliad cyn i’r drysau agor i wylio’r soundcheck, cwrdd â’r artistiaid a’r staff, a dysgu mwy am yrfaoedd posib yn y diwydiant cerddoriaeth.

Yn cwblhau’r gyfres roedd noson yng nghwmni N’famady Kouyaté a Danielle Lewis nos Wener 6 Mai gyda N’famady yn dychwelyd i Abertawe am set lawn ar ôl ei berfformiad llwyddiannus fel rhan o’r Ŵyl Ymylol yn 2021. 

Mae’n amlwg bod yna awydd gwirioneddol iawn i gynnal llwyth o gigs yn y lleoliad felly rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr i weld artistiaid lu yn Nhŷ Tawe – cadwch olwg ar galendr gigs Y Selar am y dyddiadau diweddaraf!

Prif Lun: Georgia Ruth yn perfformio yn Nhŷ Tawe ar ei newydd wedd yn ddiweddar