Ail-ryddhau cryno albwm Meinir Gwilym

Mae’n 20 mlynedd ers rhyddhau cryno albwm arwyddocaol Meinir Gwilym, ‘Smôcs, Coffi a Fodca Rhad’, eleni ac i nodi’r garreg filltir mae’r record yn cael ei ail-ryddhau heddiw. 

Y record 7 trac oedd y gyntaf i ymddangos gan Meinir ac fe ffrwydrodd poblogrwydd yr artist o Fôn diolch i draciau cofiadwy ‘Wyt Ti’n Gêm?’, ‘Dim Byd a Nunlla’ ac ‘Wyt Ti’n Mynd i Adael’ – traciau sy’n dal i gael eu chwarae’r rheolaidd ar y tonfeddi hyd heddiw. 

Label Gwynfryn Cymunedol ryddhaodd y record yn wreiddiol a credir ei bod yn un o’r recordiau sydd wedi gwerthu orau yn y cyfnod hwnnw, os nad erioed yn y Gymraeg. 

Er mwyn nodi pen-blwydd y record mae Meinir Gwilym wedi mynd ati i ail-recordio’r caneuon yn acwstig. Bydd y rhain, yn ogystal â’r fersiynau gwreiddiol ar y fersiwn newydd o’r casgliad, ynghyd â thair cân wedi’u hail-gymysgu. 

Bydd y casgliad yn cael ei ryddhau’n ddigidol ac ar ffurf CD ar 31 Mawrth. 

Dyma ail-gymysgiad ‘Wyt Ti’n Mynd i Adael’ gan Y Mudiad: