Ail sengl Tara Bandito ar y ffordd 

A hithau newydd ryddhau ei sengl gyntaf dan yr enw llwyfan newydd, bydd Tara Bandito yn rhyddhau ei hail sengl ar ddydd Gwener 18 Chwefror.

‘Rhyl’ ydy enw’r sengl newydd sy’n ddilyniant i ‘Blerr’ a ryddhawyd fis Ionawr ar label Recordiau Côsh. 

Mae’n amlwg o’r enw beth ydy prif ddylanwad y trac sef y dref glan môr yn y gogledd a fu’n destun gwawd i sawl cenhedlaeth a brofodd ei goleuadau llachar a parciau antur, pan oedd yr ardal ymhell heibio’i dyddiau gorau. Lazer-quest, Sun Centre, y farchnad a’r siopau glan môr oedd yn gwerthu nwyddau rhad a gwael, yn aml wedi’u ‘bleachio’ gan yr haul cyn hyd yn oed cael eu prynu.

Mae Tara Bandito wedi’i magu yn ardal Y Rhyl, ynghyd ag enwogion fel Lisa Scott-Lee (o’r grŵp Steps), y pêl-droediwr James Chester a thad y comedïwr, Lee Evans. Yn ôl Tara, mae’n hawdd anghofio bod cael dy fagu’n yr ardal y peth agosaf sydd gan pobl Cymraeg i dyfu fyny yn Las Vegas, gyda rhai o drigolion Rhyl yn dal i gyfeirio ati fel “Vegas” hyd heddiw. 

Mae Rhyl yn le unigryw sy’n siŵr o gael effaith ar fywyd y rhai sy’n cael eu magu yno, ac mae’n sicr wedi cadw ei le saff yng nghalon Tara Bandito a dylanwadu’n fawr arni.

Mae ganddi atgofion melys o weithio y box office i sioeau wreslo ei thad, Orig Williams (El Bandito) a helpu ei mam ar y stondin “merch” gan werthu’r “boo hands” a’r “championship belts” plastig drwy’r ‘summer seasons’. 

Fel cymaint o bobl ifanc yr ardal fe brofodd hefyd fedydd tân y “clubbing scene” yng nghlybiau Rosie O’Grady’s a Scruples tra’n ymfalchïo yn yr ‘Hooch’ a ‘WKD’ ar y nosweithie £1 y botel! Mae Tara yn dathlu ei hunaniaeth gyda’i thafod yn ei boch yn ‘Rhyl’ ac yn cydnabod prydferthwch y neon llachar oedd yn rhan o’u ieuenctid ac sy’n parhau i fod yn ddarn ohoni hyd heddiw. 

Ail o dair

‘Rhyl’ ydy’r ail mewn cyfres o dair sengl a gafodd eu gyda’r cynhyrchydd Rich James Roberts yn stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth yn niwedd 2021, ac mae Côsh yn falch o gyhoeddi bod Tara bellach wedi dychwelyd i’r stiwdio er mwyn recordio rhagor o draciau. 

Roedd ymateb ardderchog i’r fideo lliwgar a gyhoeddwyd gan Lŵp i gyd-fynd â rhyddhau’r sengl ‘Blerr’, ac mae fideo ar gyfer ‘Rhyl’ eisoes wedi’i ryddhau gan brosiect Merched yn Gwneud Miwsig ddydd Gwener diwethaf, 11 Chwefror.

Cafodd y fideo ei saethu gan Andy Neil Pritchard ac yn cynnwys dawnswyr ifanc o Ysgol Ddawns Anti Karen.