Fersiwn newydd o un o draciau mwyaf poblogaidd Mared ydy’r gân ddiweddaraf i’w rhyddhau fel rhan o ddathliadau label I KA CHING yn 10 oed.
Rhyddhawyd ailgymysgiad Nate Williams o ‘Dal ar y Teimlad’ gan Mared ddydd Gwener diwethaf, 1 Ebrill – trac a ymddangosodd ar ei halbwm cyntaf, ‘Y Drefn’, a ryddhawyd yn 2020.
Yn 2021 fe gyrhaeddodd I KA CHING dipyn o garreg filltir wrth ddathlu deng mlwyddiant o fodolaeth. Gan fod y pandemig wedi cyfyngu ar y dathliadau bryd hynny, mae’r label wedi penderfynu parhau i nodi’r achlysur yn 2022 gyda gyda chlamp o gasgliad o ganeuon newydd ac ailgymysgiadau gan artistiaid y label.
Rhyddheir cân yr wythnos hyd nes yr 20 Mai 2022, sef dyddiad rhyddhau’r casgliad ar ffurf record feinyl ddwbwl.
Nate yn ddewis naturiol
Go brin fod angen llawer o gyflwyniad ar Mared Williams bellach, a hithau wedi hen wneud ei marc ar bob cornel ar sîn gerddorol amrywiol Cymru a thu hwnt ers sawl blwyddyn.
Daeth i’r amlwg yn gyntaf fel aelod o’r grŵp o Ddyffryn Clwyd, Trŵbz, cyn mynd ati i sefydlu ei hun fel artist unigol. Cipiodd ddwy wobr yng Ngwobrau’r Selar 2020, sef ‘Seren y Sin’ ac ‘Artist Unigol Gorau’ ac fel enillodd ei halbwm cyntaf deitl ‘Albwm Gymraeg y Flwyddyn’ yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2021.
Mae Mared hefyd yn canu gyda Welsh of The West End ac yn gwneud enw iddi ei hun ar lwyfannau’r West End fel rhan o gast presennol Les Miserable.
Bu Mared yn cyd-weithio’n ddiweddar gyda’r cerddor a’r cynhyrchydd Nate Williams gan ryddhau tair sengl; ‘Pictures’, ‘Let Me Go’, a ‘Something Worth Losing’.
Dewis naturiol felly oedd gofyn i Nate ail-gymysgu a rhoi ei stamp yntau ar un o senglau poblogaidd Mared oddi ar ei halbwm ‘Y Drefn’, sef ‘Dal ar y Teimlad’.
Mae ‘Dal ar y Teimlad’ yn trafod cyfnod trawsnewidiol mewn bywyd, o deithio’n gyson rhwng dinasoedd a mynd nôl at wreiddiau.
Fel mae’r gân yn symud at y gytgan mae gobaith yn ymddangos, yn gwthio’r gwrandäwr i ddal ar deimlad er mwyn dringo a chyrraedd at yr amcan nesaf. Datgela’r penillion ein hanallu i ganiatáu newid, ac i ollwng gafael ar bobl ac atgofion mewn lleoliadau gwahanol, er mwyn symud yn ein blaenau.
I gyd-fynd â’r sengl mae Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer y trac. Mae’r fideo’n serennu Rïa Williams ac wedi’i greu gan Gwenno Llwyd Till.
Dyma’r fideo: