Mae Al Lewis wedi rhyddhau ei sengl Saesneg ddiweddaraf sydd â neges wleidyddol glir ynddi ynglŷn â’r argyfwng tai sy’n wynebu nifer o gymunedau Cymreig ar hyn o bryd.
Mae 38.8% o’r tai yn Llanengan ym Mhen Llŷn, sef yr ardal lle magwyd Al, yn ail gartrefi.
Wedi tyfu i fyny yno fel siaradwr Cymraeg brodorol, mae’r trawsnewidiad distaw ond cynyddol hwn o’r lle a alwodd Al yn gartref iddo wedi’i osod yn foel yn ei sengl newydd ‘The Farmhouse’.
Mae’r geiriau’n canolbwyntio ar sut mae cymunedau o bobl yn ardaloedd gwledig Cymru (fel mewn cymaint o rannau eraill yn y DU) yn cael eu prisio allan o’u cymunedau gan unigolion cyfoethocach sydd am brynu ail gartrefi.
Newid enwau Cymraeg
Mae Al hefyd yn tynnu sylw ar y nifer cynyddol o enghreifftiau o enwau Cymraeg hir sefydlog yn cael eu disodli gan enwau Saesneg generig sydd o ddim arwyddocâd i’r ardaloedd yma.
“Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf rwyf wedi cael y cyfle i weld y trawsnewid poenus sy’n digwydd yn yr ardal y ces i fy magu ynddi” meddai Al Lewis.
“Mae pobl leol sydd eisiau magu eu teuluoedd yn eu cymunedau lleol bellach yn cael eu gorfodi allan oherwydd prisiau tai, ac mae wedi gwaethygu yn ystod y pandemig. Mae hefyd yn erydu’r Gymraeg a hynny yn y mannau lle’r oedd yr iaith yn brif iaith y gymuned.”
Taith Te yn y Grug
Bydd Al hefyd yn fuan yn mynd ar daith gyda’i albwm cysyniadol Cymraeg ‘Te yn y Grug / Tea in the Heather’ a ddaeth allan yn 2020.
Mae’r albwm yn seiliedig ar lyfr o’r un enw gan yr awdur adnabyddus Dr Kate Roberts ac wedi ei haddasu o’r sioe gerdd y comisiynwyd Al i ysgrifennu’r gerddoriaeth ar ei chyfer fel rhan o Eisteddfod Genedlaethol 2019 yn Llanrwst.
Ychydig cyn y pandemig, gwnaeth Al gyfres o gyngherddau lle ymunodd ei fand ag ef ar y llwyfan, a hefyd Corau Lleol a wahoddwyd yn arbennig i berfformio albwm ‘Te yn y Grug / Tea in the Heather’ yn ei gyfanrwydd. B
u’n rhaid cwtogi’r daith, fel cymaint, oherwydd Covid 19, ond bydd Al yn ailddechrau’r dyddiadau hyn ym mis Ebrill / Mai 2022.