Albwm Awst ar y ffordd

Bydd Awst, sef prosiect cerddorol unigol Cynyr Hamer, yn rhyddhau ei albwm cyntaf ar 26 Awst. 

‘Haul/Lloer’ fydd enw record hir unigol y cerddor profiadol, ac fe fydd ar gael i’w phrynu ar Bandcamp ar 18 Awst, wythnos cyn y dyddiad rhyddhau swyddogol. Bydd nifer cyfyngedig o gopïau CD o’r record ar gael i’w harchebu ar Bandcamp. 

Wyth trac fydd ar yr albwm a rheiny’n cynrychioli’r wythfed mis, sef mis Awst wrth gwrs. Yn briodol iawn, mae ‘Haul/Lloer’ yn albwm i’r haf sy’n llawn addfwynder acwstig ac alawon breuddwydiol wedi’u plethu mewn synths symudliw ac adrannau pres. 

Yn ôl Cynyr, mae ‘Haul/Lloer’ yn albwm llawn pegynau, haul a lleuad, dydd a nos, major a minor, bywyd a marwolaeth.

Mae Cynyr Hamer yn gerddor adnabyddus i unrhyw un sy’n dilyn cerddoriaeth gyfoes Gymraeg, yn bennaf diolch i’w waith fel aelod o’r bandiau Worldcub (CaStLeS gynt), Hippies vs Ghosts ac We Are Animal.

Mae Awst yn brosiect unigol newydd ganddo, ac mae wedi bod yn brysur yn ysgrifennu ac yn recordio caneuon newydd ers haf 2020. Rhyddhawyd ei gynnyrch cyntaf ym mis Ebrill 2021 sef y sengl ddwbl ‘Lloeren’ a ‘Send a Sign to the Satellite’. Ers hynny mae wedi rhyddhau senglau pellach sef ‘Haul Olaf’ ym mis Awst 2021 ac yna ‘Sant y Lloer’ yn Ebrill 2022.