Mae Bitw wedi rhyddhau fersiwn casét o’i albwm ‘Prysur Ymarfer’, sef fersiwn piano o albwm cyntaf y cerddor.
Bitw ydy prosiect unigol y cerddor amryddawn Gruff ab Arwel.
Rhyddhaodd ei albwm hunan deitlog cyntaf yn wreiddiol ym mis Mai 2019 ac mae’n llawn o’r synau pop electronig low fi rydan ni wedi dod i arfer eu clywed gan y cyn aelod Eitha Tal Ffranco presennol Y Niwl.
Ym mis Ebrill 2020, yn fuan ar ôl dechrau cyfnod clo pandemig Covid-19 fe ryddhaodd fersiwn newydd o’r albwm dan yr enw ‘Prysur Ymarfer’ – fersiwn gyda’r caneuon i gyd yn cael eu perfformio ar biano yn unig.
“Dwi wedi recordio fersiwn pot jam piano a llais o fy record gyntaf – ‘Prysur Ymarfer’ – sydd ar gael i brynu rwan am £2, neu faint bynnag da chi’n meddwl ma’n haeddu” meddai Gruff ar y pryd.
“Ma na rwbeth wedi bod yn fy nal nôl i raddau rhag rhoi hwn allan, rhyw deimlad ella y byswn i ond yn ychwanegu at y llu o bethau sy’n ymddangos ar y we bob dydd yn y cyfnod rhyfedd yma – er mor wych di gweld cymaint o stwff newydd, dwi’n ymwybodol o’r pwysau ma pethau felly’n gallu ei roi ar artistiaid i greu.”
“Ond yn y pen draw, nes i benderfynu mynd amdani, am y rheswm mai dim ond am gyfnod cyfyngedig y bydd yr albwm ar gael ac mae hynny o gysur i mi mewn ffordd, gan fod o’n fy atgoffa, er ei bod hi’n teimlo braidd fel diwedd y byd ar hyn o bryd, y daw eto haul ar fryn.”
Dim ond 20 copi
Ar y pryd fe ddywedodd Gruff y byddai’r fersiwn newydd o’r albwm ar gael yn ddigidol yn unig am gyfnod cyfyngedig sef “tan fod hyn i gyd drosodd”. Ond gyda’r pandemig yn dal i rygnu ymlaen, mae’n cydnabod nad ydy’r datganiad gwreiddiol hynny’n golygu rhyw lawer bellach.
“Mae na ddwy flynedd wedi bod bellach ac mae’n bryd dod â ‘Prysur Ymarfer’ i ben” meddai Gruff.
“I nodi’r achlysur, mi fydd yr albwm ar gael ar dâp o’r diwedd. Dim ond 20 copi sy’n bodoli a dyna ni wedyn ar ôl hynny. Mae’n bryd imi ffarwelio efo’r caneuon yma.
“Ar ôl dau albwm, dwi’n weddol sicr mod i wedi godro pob diferyn o ddaioni allan ohonyn nhw.”
Mae modd archebu’r copïau cyfyngedig o’r casét ar safle Bandcamp Bitw, nes eu bod oll wedi eu gwerthu.
Dyma’r fersiwn piano yn unig o drac agoriadol yr albwm, ‘Siom’: