Albwm cyntaf Cwtsh allan ar CD

Ar ôl rhyddhau’r albwm yn ddigidol llynedd, mae record hir gyntaf y grŵp Cwtsh nawr ar gael ar ffurf CD. 

Rhyddhawyd ‘Gyda’n Gilydd’ yn ddigidol ym mis Chwefror 2021 yn dilyn cyfres o senglau i roi blas gan Cwtsh. 

Daeth y grŵp, sy’n cynnwys tri o gerddorion profiadol iawn, i amlygrwydd yn ystod 2020 wrth ryddhau’r senglau ‘Gyda Thi’ ym mis Mehefin 2020, ac yna ‘Cymru’ ym mis Medi ac ‘Ein Trysorau Ni’ yn Rhagfyr y flwyddyn honno. 

Aelodau Cwtsh ydy Alys Llywelyn-Hughes, sydd hefyd yn perfformio dan yr enw Lunar Glass; Siôn Lewis, fu’n aelod o nifer o grwpiau fel Edrych am Jiwlia, Y Gwefrau ac Y Profiad yn y gorffennol; a Betsan Haf Evans sydd wedi bod mewn llwyth o fandiau gan gynnwys Y Panics, Daniel Lloyd a Mr Pinc, Genod Droog, Kookamunga ac y Gwdihŵs. Mae Betsan hefyd yn aelod o’r grŵp rockabilly newydd, Pwdin Reis, ar hyn o bryd.

Cafwyd croeso cynnes i’r senglau, ac yna i’r albwm pam ei rhyddhawyd ar 26 Chwefror. Cymaint felly nes i ‘Gyda’n Gilydd’ gael ei gynnwys ar restr ‘Albwm Cymraeg y Flwyddyn’ yr Eisteddfod Amgen yn Awst 2021. 

Rhyddhawyd yr albwm yn ddigidol ar safle Bandcamp Cwtsh yn wreiddiol, ond mae bellach modd prynu copi CD mewn siopau Cymraeg a siopau lleol eraill.