Albwm cyntaf Georgia Ruth i ddod allan ar feinyl

Wrth nodi deng mlynedd ers rhyddhau ei halbwm cyntaf, bydd Georgia Ruth yn ail-ryddhau ‘Week of Pines’ gan gynnwys ei gyhoeddi ar ffurf feinyl am y tro cyntaf. 

Rhyddhawyd ‘Week of Pines’ yn wreiddiol yn 2013 ar label Gwymon, sef un o is-labeli Recordiau Sain ar y pryd. 

Bydd y fersiwn newydd o’r albwm allan ar 1 Mawrth 2023 ar label Bubblewrap. 

Cafodd yr albwm ymateb anhygoel yn 2013 gydag adolygiadau ffafriol gan gynnwys yn The Guardian ac y Wales Arts Review. 

‘Week of Pines’ hefyd oedd enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2013 – dim ond y trydydd enillydd o’r wobr ar ôl ‘Hotel Shampoo’ gan Gruff Rhys yn 2011 a ‘The Plot Against Common Sense’ gan Future of the Left yn 2012.  Cafodd lwyth o sylw ar draul hyn gan fynd â’r albwm, ac enw Georgia, at gynulleidfa ehangach. 

Cafodd yr albwm ei recordio a chynhyrchu gan David Wrench yn ei stiwdio Bryn Derwen yn Eryri dros chwe diwrnod ym mis Awst 2012 – mae’r stiwdio enwog wedi mynd bellach ond yn ôl Georgia “mae’r hud a’r lledrith a’r hapusrwydd yn dal i fyw yn y caneuon”

Mae ei band yn cynnwys aelodau’r grŵp Cowbois Rhos Botwnnog – Aled, Iwan a Dafydd – ac hefyd yn cynnwys cyfraniad arbennig gan Llewen Steffan. 

Dyma’r anhygoel ‘Etrai’ o’r albwm: