Albwm Gwenno ar restr Gwobr Mercury

Mae albwm diweddaraf Gwenno, ‘Tresor’, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr gerddoriaeth enwog Mercury eleni.

‘Tresor’ ydy trydydd albwm llawn Gwenno ac fe’i rhyddhawyd ar ddechrau mis Gorffennaf eleni. Nawr mae’r albwm wedi’i gynnwys ar y rhestr fer o 12 record hir sydd â chyfle i ennill Gwobr Mercury 2022.

Mae’r enwau eraill sydd ar y rhestr eleni’n cynnwys Harry Styles, Self Esteem, Jessie Buckley & Bernard Butler, a Nova Twins.

Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad arbennig yn yr Eventim Apollo, Hammersmith ar 8 Medi.