Mae’r artist ôl-bync Me Against Misery wedi penderfynu troi nôl at y Gymraeg ar ei albwm diweddaraf a ryddhawyd ar 29 Gorffennaf.
Crafangau ydy enw’r albwm newydd gan brosiect cerddorol Matt Rhys Jones o’r Rhondda.
Mae’r casgliad newydd o ganeuon yn ddilyniant i’w albwm cyntaf, Songs from a Divided Kingdom a ryddhawyd yn 2020. Albwm o ganeuon Saesneg oedd hwnnw, ond mae ail albwm y prosiect yn gyfan gwbl yn y Gymraeg.
Dywed Matt ei fod wedi penderfynu canolbwyntion ar ei iaith frodorol y tro hwn mewn ymdrech i “ddileu unrhyw haenau o esgus” ymhellach.
“Rydych chi’n rhoi rhan ohonoch chi’ch hun i ffwrdd pan fyddwch chi’n rhyddhau cerddoriaeth, mewn unrhyw iaith” meddai Matt.
“I ysgrifennu mor bersonol yn eich mamiaith – mae’n teimlo’n fwy real, ac yn fwy peryglus mewn ffordd. ”
“Cymraeg fu iaith yr ‘underdog’ erioed. Mae ei oroesiad wedi dibynnu ar ewyllys ystyfnig a pharodrwydd i brotestio. Felly mae’n deimlad addas i ganu yn Gymraeg am y rheswm hwnnw.”
Dylanwad y Manics
Mae ‘Crafangau’ yn ysgytiad costig, barddonol o gythreuliaid personol a chymdeithasol, wedi’i blethu ar draws tirwedd sonig sy’n gymdogion digywilydd i Gary Numan a Manic Street Preachers.
Ac mae’r Manics yn amlwg yn ddylanwad mawr ar gerddoriaeth Me Against Misery.
“Mae’r Manics yn ysbrydoliaeth glir ac amlwg i mi” eglura Matt.
“Sut na allent fod? Daethon nhw hefyd o dde Cymru ôl-Thatcheraidd gyda’r awydd i beidio â derbyn trefn pethau, i beidio â gadael i’r tywyllwch lethu’r golau.
“Dyna fu calon Me Against Misery – penderfyniad i alw allan y rwtsh y mae bywyd modern yn ei bentyrru’n ddigymell ar stepen drws y tlawd, y gwan a’r unig.
“Dyna pam mae gan y gwaith hwn yr enw sydd ganddo – dyma fy mrwydr bersonol yn erbyn iselder a dicter a diffyg llais. Ma fe’n llythrennol yn Me Against Misery.”
Galwad i wrthsefyll
Yn delynegol, mae Me Against Misery yn dal drych toredig i fyny i’r hyn y mae Matt yn ei gredu sy’n Gymru drylliedig. Mae Crafangau yn cynnig perchnogaeth serth a huawdl ar ail gartrefi (ar ‘Mor a Mynydd)’, ymroddiad cenedlaethol tebyg i gwlt i Lafur Cymru (ar ‘Dieithryn’) a thagu cyfryngau Murdochaidd anglo-ganolog (ar ‘Propaganda’).
Ac eto er yr holl ddadansoddi amrwd o broblemau’r Gymru fodern, mae Me Against Misery yn benderfynol bod gobaith ymhell o fod ar goll.
“Y trac ‘Ysgwydd wrth Ysgwydd’ yw fy ngalwad i wrthsefyll, fel y’i gosodwyd yn ‘Yma o Hyd’ gan Dafydd Iwan.” meddai Matt.
“Mae’r gân honno wedi bod yn esiampl fawreddog o gerddoriaeth Gymraeg. Mae ei gweld yn cael ei mabwysiadu fel anthem gan gefnogwyr pêl-droed (uniaith Saesneg i raddau helaeth) yn ddiweddar wedi bod yn wych.
“Mae wedi dangos i ni, ymhell o fod yn fater arbenigol gan y cyfryngau yn Llundain, y gall ac mae ein diwylliant brodorol yn atseinio gyda phobl ar raddfa fawr mewn ffordd ddwys.
“Mae cerddoriaeth Gymreig, diwylliant Cymreig, ysbryd Cymreig, y gwrthwynebiad, yn fyw ac yn iach.” ychwanega’r cerddor.
Mae Crafangau gan Me Against Misery ar gael ar yr holl lwyfannau digidol arferol.
Dyma drac agoriadol yr albwm, ‘Datguddiad’: