Bydd y grŵp gwerin, Alaw, yn rhyddhau eu halbwm newydd o ganeuon Cymraeg a Saesneg ar 2 Chwefror.
Mae’r grŵp yn dychwelyd gyda lein-yp newydd sydd nawr yn cynnwys Nia Lyn sy’n canu ac yn chwarae’r harmoniwm.
Mae Nia’n ymuno gydag Oli Wilson-Dickson sydd yn chwarae’r ffidil ac yn canu a Dylan Fowler sydd yn chwarae’r gitâr ac yn canu.
Enw’r albwm newydd ydy Drawn to the Light ac fe’i recordiwyd yn ystod y cyfnod clo pan roedd cyfyngiadau lleol yn caniatáu i’r band gyfarfod.
Cafodd fideo cerddoriaeth ei greu o un o’r caneuon, ‘Fill The House’, yn Neuadd Dinas Wem yn ystod taith Rhagfyr 2021 ALAW, y daith gyntaf ers dod allan o gyfyngiadau Covid.
Mae modd gweld y fideo ar-lein nawr ac mae ALAW yn lansio’r CD gyda chyfres o sioeau byw yn dechrau ar 28 Ionawr. Bydd yr albwm ar gael yn y mannau digidol arferol ac hefyd ar ffurf CD o siopau lleol ac o wefan Alaw.
Dymm fideo Fill the House: