Tara Bandito ydy gwestai diweddaraf y gyfres gerddoriaeth Lŵp: Ar Dâp.
Mae modd gweld y sesiwn fyw gan y gantores amryddawn ar lwyfannau digidol Lŵp nawr…er ei bod hi’n werth crybwyll bod rhybudd iaith gref ar y darllediad.
Dyma’r ail o’r gyfres ddiweddaraf Lŵp: Ar Dâp gan ddilyn sesiwn gan N’Famady Kouyaté a gyhoeddwyd ar-lein ychydig wythnosau yn ôl.
Dros y misoedd nesaf, bydd cyfle i wylio rhagor o berfformiadau byw gan rhai o fandiau/artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru.
Mae Tara wedi perfformio ers yn 5 mlwydd oed. Ond dim ond yn y blynyddoedd diwethaf mae’r gantores o Rhyl wedi darganfod mai drwy ysgrifennu ei cherddoriaeth ei hun ydi’r ffordd orau o ddeall a mynegi ei hun.
Mae’r gerddoriaeth sy’n dod yn sgil ei sesiynau hwyrnos o ysgrifennu mor unigryw ac y mae nhw’n onest, yn cyffwrdd ar eu profiadau’n teithio dwyrain y byd ac yn ewfforig ar adegau.
Ar ddechrau’r flwyddyn bu i Tara ryddhau cyfres o dair sengl a brofodd yn boblogaidd iawn sef ‘Blerr’ ym mis Ionawr, ‘Rhyl’ ym mis Chwefror, a ‘Drama Queen’ ym mis Mawrth.
Mae’r traciau hyn yn ei set Ar Dâp ynghyd a’r caneuon ‘Six Feet Under’ ac ‘Unicorn’.
Dyma’r bennod: