Artistiaid Cymraeg ar lwyfan ‘Settlement’ y Dyn Gwyrdd

Mae trefnwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi cyhoeddi manylion perfformwyr eu gŵyl ‘Settlement’ yn ddiweddarach ym mis Awst, a bydd presenoldeb gref o artistiaid Cymraeg ar y llwyfannau.

Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal ar ddechrau’r wythnos cyn y brif ŵyl y Dyn Gwyrdd ar gyfer y bobl hynny sydd eisiau gwneud wythnos lawn ohoni a chyrraedd y Bannau Brycheiniog yn gynnar.

Bydd yr ŵyl Settlement yn digwydd rhwng nos Lun 15 Awst a nos Fercher 17 Awst, gyda’r brif ŵyl yn digwydd rhwng 18 a 21 Awst. 

Dros y blynyddoedd diweddar mae llawer o artistiaid Cymraeg wedi ymddangos yn y digwyddiad Settlement diolch i’r ffaith bod yr ŵyl wedi rhoi’r cyfle i labeli ac unigolion o’r sin Gymraeg guradu’r llwyfannau. Eleni mae The Gentle Good wedi derbyn y cyfrifoldeb o guradu arlwy nos Lun, Recordiau I KA CHING yn curadu nos Fawrth a Recordiau Cae Gwyn yn curadu nos Fercher.

Dyma rai o’r artistiaid Cymraeg sy’n perfformio: 

Llun: The Gentle Good, Ahgeebe, Tapestri

Mawrth: Candelas, Y Cledrau, Yr Eira, Glain Rhys, Blodau Papur, Dienw

Mercher: Omaloma, The Mighty Observer, Pelydron, Nia Morgan, Lastigband, Ffenest