Artistiaid ifainc i’w gwylio yn 2023

Gruffudd ab Owain sy’n awgrymu pa artistiaid ifanc ddylai dilynwyr Y Selar gadw llygad arnyn nhw dros y flwyddyn i ddod…

Roedd pryder ymysg nifer fod y pandemig a’i sgîl-effeithiau wedi dod â rhwystrau i gerddorion ifanc newydd yng Nghymru, ac y byddai’n her ennyn diddordeb a ffurfiant bandiau newydd wedi’r cyfnodau clo.

Ond mae’n debyg ei bod hi’n hawdd cynnau tân ar hen aelwyd. Â seiliau cadarn wedi eu gosod ers blynyddoedd bellach, mae ‘na don newydd nerthol o grwpiau ac artistiaid ifanc yn barod i greu argraff.

Nid yn unig fo nifer dda o artistiaid cyffrous a brwdfrydig, ond maen nhw hefyd oll yn cynnig rhywbeth gwahanol a newydd i’r sin.

Mae ‘na leisiau ffres o ardaloedd a chefndiroedd sydd efallai heb eu cynrychioli gymaint â hynny o fewn y sin Gymraeg, tra bo’r cadarnleoedd yn dal yn llwyddo i feithrin talent yr ifainc.

Mi gewch chi flas ar hynny yn y detholiad canlynol o grwpiau ac unigolion ifanc sy’n barod i ysgwyd seiliau’r sin yn y flwyddyn newydd a thu hwnt.

 

Maes Parcio

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae’r band pync trwm o Gaernarfon ac Ynys Môn, Maes Parcio, eisoes yn gyfarwydd i ddarllennwyr Y Selar a hwythau wedi rhyddhau eu sengl gyntaf, ‘Sgen Ti Awydd’, ar label Inois ychydig wythnosau’n ôl.

“Yn y flwyddyn newydd, ’dan ni’n gobeithio mynd i’r stiwdio i recordio, a mynd lawr llwybr mwy trwm efo’r sengl nesa’ efo agwedda’ ‘metalcore‘. 

“Mi fydd caneuon nesa y band yn rhyw fath o gyfuniad o sŵn Green Day a’r sîn ‘pop punk‘ ond yn fwy trwm. Rydan ni’n barod i ddangos be sgin Maes Parcio i’w rhoi i’r sin roc Gymraeg yn 2023!”

 

Tesni Hughes

 

 

Cerddor ifanc o Langefni, Ynys Môn ydy Tesni Hughes, sy’n sgwennu caneuon gwreiddiol ac yn perfformio ers ychydig o flynyddoedd ar hyd Gogledd Cymru, ac mae hi hefyd wedi gwneud ambell gig yn y De.

“O ran sŵn dwi’n meddwl bo’ fi’n creu tiwns sydd yn eitha’ pop/rock/indie vibes rŵan,” meddai. 

“’Nes i gychwyn yn ‘neud popeth yn acwstig gyda caneuon rili ‘chill’ fel fy sengl gynta’ ‘Pell I Ffwrdd’ ond rŵan mae bandia’ fel Breichiau Hir, Mellt a Oasis yn cael dylanwad ar y stwff newydd dwi’n gobeithio rhyddhau yn y dyfodol agos iawn!”

 

Ble?

 

 

O Gaerdydd y daw’r grŵp Ble? ffurfiodd mewn pryd ar gyfer perfformio hyd a lled y brifddinas dros yr haf eleni.

“Dychmygwch Owain Roberts (Band Pres Llareggub) ag Osian Candelas yn cael babi! Dyna’r fath o gerddoriaeth sydd i’w ddisgwyl wrth i chi ddod i’n gweld ni’n perfformio.”

Maen nhw’n dweud fod eu sain nhw hefyd wedi’i ddylanwadu gan “fandiau fel Frizbee, Band Pres Llareggub, Fountains of Wayne ag Alffa.”

O ran eu cynlluniau at y flwyddyn newydd, maen nhw’n “edrych ymlaen at weld beth ddaw a 2023 i ni ag ry’n ni’n gobeithio dechrau rhyddhau ambell gân. Ond fydd raid i chi aros i weld!”

 

Francis Rees

 

 

 

 

 

 

“Mae fy miwsig yn dream pop gyda ‘chydig o indie; dwi’n defnyddio fy MIDI Keyboard i gynhyrchu popeth,” esbonia Beth Pugh o Dywyn, Meirionnydd sy’n perfformio dan yr enw Francis Rees.

“Dwi’n cael llawer o ysbrydoliaeth o’r 90au a’r 80au, ond hefyd dwi’n cael ysbrydoliaeth gan fandiau fel Omaloma a Serol Serol oherwydd y ffordd maen nhw’n dod â pop ac electronig gyda’i gilydd.

“Fy plans ar gyfer 2023 yw cario ‘mlaen be ‘nes i gychwyn gyda fy miwsig, i wneud mwy gyda phrosiect Kathod, a mwy o gigs.”

 

Dadleoli

Mae Dadleoli yn fand pop ifanc o Gaerdydd sydd eisoes wedi cael cryn lwyddiant yn 2022.

“[Rydym ni] wedi chwarae yn Clwb Ifor Bach ddwywaith yn y misoedd diwethaf, a hefyd chwarae llawer o gigs yn cynnwys  cefnogi Dafydd Iwan ym Mhenarth a recordio Noson Lawen,” esboniant.

“Mae’r band bellach wedi ysgrifennu tua 10 o ganeuon ac yn gobeithio cael rhain wedi recordio a’i rhannu dros y misoedd nesaf.”

Maen nhw eisoes wedi ennyn cefnogaeth label recordiau JigCal, gan ddweud fod eu “sŵn yn un unigryw gyda’r caneuon yn amrywio o’i gilydd.

Mae ein cân ‘“Cefnogi Cymru’” allan ar bob platfform ac mi fydd bendant mwy ar y ffordd yn 2023.”

 

Talulah Thomas

 

 

 

 

Daw’r cyfansoddwr a’r dylunydd sain Talulah Thomas o ardal Llangollen, ond maen nhw hefyd yn ymgartrefu yng Nghaergrawnt. Maen nhw’n rhan o’r Playtime Collective, sy’n cynnig llwyfan yn benodol i leisiau benywaidd ac anneuaidd.

“[Dwi’n] ffocysu ar gynhyrchu genre-blending trwy greu woozy fusions o jazz, clasurol ac electronic ambience.”

Maen nhw’n esbonio fod eu “dylanwadau yn amrywio o Dina Ögon ac ELIZA, i Jockstrap a Tirzah,” a bod eu cynhyrchiad ‘Byth yn Blino’ “wedi’i wreiddio mewn mynegiant o gariad queer.

“[Dwi’n] edrych i fynegi mwy o gynrychiolaeth a gwelededd queer o fewn y sin miwsig Cymraeg.”

 

Mynadd

O ardal Y Bala daw’r grŵp newydd, Mynadd, sydd wedi ffurfio yn ystod y misoedd diwethaf.

“Ar hyn o bryd, ‘den ni’n arbrofi wrth i ni drio ffeindio’n sain, ond ‘den ni hefyd yn hoffi’r syniad o ‘neud ‘chydig bach o bob dim,” meddai’r prif leisydd Elain. 

“Den ni’n trio cynnig ‘wbeth gwahanol, a ma’r cyfuniad unigryw sydd geny’ ni yn galluogi ni i ‘neud hynny.

“Ma’ geny’ ni gynlluniau mawr at 2023. Ma geny’ ni lond llaw o gigs wedi bwcio at ddechrau’r flwyddyn, a den ni’n brysur yn ‘sgwennu set o ganeuon i ddiddanu cynulleidfaoedd ledled Cymru.”

 

Alis Glyn

Dechreuodd Alis Glyn rannu clipiau byr o’i chaneuon ar Instagram yn ystod y cyfnodau clo, a chafodd anogaeth i ryddhau ei cherddoriaeth wedi hynny.

Mae’n dweud ei bod yn “hoff o roi negeseuon positif a hapus gan fy mod yn sylwi bod mwyafrif y caneuon sydd nawr yn cael eu cyfansoddi yn rhai trist a lleddf,” meddai.

“Yn 2023 dwi’n gobeithio rhyddhau albwm ar blatfformau ffrydio gyda mwy o ganeuon sydd ar y gweill. Dwi hefyd yn gobeithio gallu cystadlu ym Mrwydr y Bandiau 2023 a pherfformio yn yr Eisteddfod ac mewn gwyliau ledled Cymru.”

 

Cai

 

Prosiect cerddorol Osian Cai yw Cai, a ddechreuodd yn y cyfnod clo 2020 wrth astudio Technoleg Cerddoriaeth ym Mangor. Esbonia fod ei gynnyrch hyd yma “yn cyd-fynd â steil bedroom pop / dream pop.

“Mae’r holl draciau hyn wedi bod yn ddwyieithog [gan] cymryd dylanwadau gan artistiaid fel Easy Life, Still Woozy, King Krule, Spill Tab, a llawer mwy.”

Mae’n artist sydd eisoes wedi cael llwyddiant drwy gyrraedd rhestr fer Brwydr y Bandiau yn 2021 ac ennill cystadleuaeth ailgymysgu Maes B a Brwydr y Bandiau.

“[Ym mis] Chwefror nesaf bydd yna EP newydd sy’n ymestyn sŵn Cai, hefo mwy o ddylanwadau o artistiaid Hip Hop, RnB a Lo-fi.”

 

Dwi’n siŵr y byddech chi’n cytuno fod dyfodol y sin yn un addawol iawn yn nwylo’r artistiaid ifanc yma.

Ond maen nhw i gyd yn ddibynnol ar gefnogaeth; felly ewch da chi i’w gweld yn perfformio, ac i wrando ar eu cynnyrch!

Geiriau: Gruffudd ab Owain